Mynydd Tryfan yn Eryri

Cewri Cymru

Canllaw Rhiant & Athro
Cewri Cymru

Gwlad fechan iawn yw Cymru o’i chymharu â rhai o wledydd eraill y byd.  

 

Mae poblogaeth Cymru oddeutu 3.1 miliwn a phoblogaeth y byd oddeutu 7.9 biliwn. 

 

Dyma sut mae 3.1 miliwn yn edrych fel ffigwr: 3,100,000 

Dyma sut mae 7.9 biliwn yn edrych fel ffigwr: 7,900,000,000 

 

Fel y gwelwch chi, canran fechan iawn o boblogaeth y byd sy’n byw yng Nghymru. Er hynny, mae’r Cymry wedi cyfrannu llawer at lawer o feysydd gwahanol gan gynnwys darganfyddiadau ym myd gwyddoniaeth,  mathemateg a phensaernïaeth. 

 

Oeddech chi’n gwybod mai Cymro o’r enw Robert Recorde ddyfeisiodd yr arwydd hafal ("=") ac mai Cymro luniodd map o’r lleuad a ddefnyddiodd NASA yn ystod eu teithiau Apollo yn y 1960au? 

 

Yn rhan o hanes Cymru mae arwyr fel Owain Glyndwr, Merched Beca a William Morgan ac mae llawer o sôn am y Brenin Arthur yn hanes chwedlonol Cymru. 

 

Mae pedwar Cymro wedi ennill Gwobr Nobel a phedwar arall wedi ennill Oscar yn Hollywood. 

 

Mae nifer o fedalau Aur y Gemau Olympaidd wedi eu hennill gan Gymry dros y blynyddoedd ac mae llawer o fyd pêl-droed a rygbi ymysg chwaraewyr gorau’r byd yn eu maes. 

 

Yn sicr, mae Cymry enwog wedi cyfrannu llawer at y byd adloniant hefyd. Mae llawer o actorion o Gymru wedi actio mewn ffilmiau yn Hollywood. Ydych chi wedi clywed am Rhys Ifans oedd yn actio yn y ffilm Spiderman? Cymro a gafodd ei eni yn Ne Cymru ond a dyfodd i fyny yn ardal Rhuthun yn y Gogledd-ddwyrain yw Rhys. Mae Catherine Zeta Jones a Matthew Rhys hefyd yn Gymry ac ymysg actorion enwog Hollywood.  

 

Wrth bori yn hanes Cymru a’i phobl yn y presennol a’r gorffennol, fe welwch fod y wlad fechan hon wedi cyfrannu llawer ar lwyfan y byd. 

Geirfa
Pensaernïaeth
Arddull adeiladu
Chwedlonol
Ffug hanesyddol
NASA
Y Weinyddiaeth Awyrofod a Gofod Genedlaethol, Unol Daleithiau America
Poblogaeth
Yr holl bobl sy’n byw mewn gwlad
1
Blog
3
Linc
4
Linc
5
Testun & llun
6
Cân / cerdd
7
Cerdyn trump
8
Testun & llun
9
Rhyngweithiol