Gwlad fechan iawn yw Cymru o’i chymharu â rhai o wledydd eraill y byd.
Mae poblogaeth Cymru oddeutu 3.1 miliwn a phoblogaeth y byd oddeutu 7.9 biliwn.
Dyma sut mae 3.1 miliwn yn edrych fel ffigwr: 3,100,000
Dyma sut mae 7.9 biliwn yn edrych fel ffigwr: 7,900,000,000
Fel y gwelwch chi, canran fechan iawn o boblogaeth y byd sy’n byw yng Nghymru. Er hynny, mae’r Cymry wedi cyfrannu llawer at lawer o feysydd gwahanol gan gynnwys darganfyddiadau ym myd gwyddoniaeth, mathemateg a phensaernïaeth.
Oeddech chi’n gwybod mai Cymro o’r enw Robert Recorde ddyfeisiodd yr arwydd hafal ("=") ac mai Cymro luniodd map o’r lleuad a ddefnyddiodd NASA yn ystod eu teithiau Apollo yn y 1960au?
Yn rhan o hanes Cymru mae arwyr fel Owain Glyndwr, Merched Beca a William Morgan ac mae llawer o sôn am y Brenin Arthur yn hanes chwedlonol Cymru.
Mae pedwar Cymro wedi ennill Gwobr Nobel a phedwar arall wedi ennill Oscar yn Hollywood.
Mae nifer o fedalau Aur y Gemau Olympaidd wedi eu hennill gan Gymry dros y blynyddoedd ac mae llawer o fyd pêl-droed a rygbi ymysg chwaraewyr gorau’r byd yn eu maes.
Yn sicr, mae Cymry enwog wedi cyfrannu llawer at y byd adloniant hefyd. Mae llawer o actorion o Gymru wedi actio mewn ffilmiau yn Hollywood. Ydych chi wedi clywed am Rhys Ifans oedd yn actio yn y ffilm Spiderman? Cymro a gafodd ei eni yn Ne Cymru ond a dyfodd i fyny yn ardal Rhuthun yn y Gogledd-ddwyrain yw Rhys. Mae Catherine Zeta Jones a Matthew Rhys hefyd yn Gymry ac ymysg actorion enwog Hollywood.
Wrth bori yn hanes Cymru a’i phobl yn y presennol a’r gorffennol, fe welwch fod y wlad fechan hon wedi cyfrannu llawer ar lwyfan y byd.