Wedi bod wrthi’n ymarfer y gân drosodd a throsodd trwy’r bore. Dwi angen pob nodyn yn ei le cyn dechrau recordio. Rydyn ni wedi defnyddio allweddellau, gitâr, gitâr fas, drymiau ac wrth gwrs llais anhygoel Alys Williams!
Ydych chi’n hoffi gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg? Mae llawer o grwpiau ac artistiaid yn canu ac yn cynnal gigs yn y Gymraeg.
Dechreuodd Cymry fel Endaf Emlyn, Dafydd Iwan, Huw Jones a Meic Stevens a llawer o fandiau fel Y Blew, Y Tebot Piws ac ati yn canu yn nulliau poblogaidd y cyfnod yn ystod y chwedegau. Pan oedd artistiaid fel Tom Jones a Mary Hopkin artistiaid o Gymru yn dringo’r siartiau yn Lloegr roedd eraill yn tanio canu cyfoes drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y chwedegau a dechrau’r saithdegau.
Yn ystod y saithdegau gwelwyd grwpiau fel Edward H Dafis, Ac Eraill, Mynediad am Ddim a Crysbas yn cael llwyddiant mawr ac yn denu cynulleidfa oedd yn mwynhau cerddoriaeth pop a roc drwy gyfrwng y Gymraeg.
Erbyn heddiw mae llawer o fandiau ac artistiaid eraill wedi cael llwyddiant yn canu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd Duffy a Cerys Mathews gyda Catatonia yn cael llwyddiant mawr yn siartiau Lloegr. Mae Cerys wedi canu nifer o ganeuon gwerin Cymraeg ac wedi poblogeiddio hen ffefrynnau.
Mae Gwobrau’r Selar yn cael yn eu cynnal yn Aberystwyth pob blwyddyn i gyflwyno amrywiol wobrau i artistiaid a bandiau newydd y sin roc Gymraeg.
Cystadleuaeth boblogaidd arall sy’n rhoi llwyfan a gwobr i artistiaid Cymraeg yw Cân i Gymru. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei darlledu ar S4C ar Ddydd Gŵyl Dewi ac mae’r enillydd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Cofiwch fod Llywodraeth Cymru wedi dynodi diwrnod arbennig i ddathlu Cerddoriaeth yng Nghymru bob blwyddyn. Mae’r dyddiad yn disgyn yn wythnos gyntaf mis Chwefror.