Grŵp o gŵn

Campau Cŵn

Canllaw Rhiant & Athro
Campau Cŵn

Mae’r ci yn byw ochr yn ochr â phobl ers dros 12,000 o flynyddoedd ac erbyn heddiw mae yn un o’r ddau brif anifail anwes sydd gennym ac yn rhan bwysig o sawl teulu.  

 

Mae tystiolaeth enetig yn awgrymu mai creadur wedi esblygu o flaidd yw’r ci a’i fod yn perthyn i’r un teulu â’r llwynog a’r Jacal. Mae dros 400 brîd o gŵn yn bodoli. Helwyr oedd y cŵn cyntaf ond, wrth i ffermio ddatblygu amser maith yn ôl, datblygwyd cŵn sodli i hel anifeiliaid fel gwartheg a’r defaid. 

 

Mae’r ci hefyd yn greadur amddiffynnol iawn. Roeddynt yn cael eu cyfrif yn gysegredig iawn gan yr hen Eifftiaid. Credant fod gan y ci nodweddion duwiol ac roeddynt yn eu parchu yn fawr. Yn wir, dim ond y teulu brenhinol oedd yn cael perchen cŵn pur yn yr hen Aifft a byddai eu gweision yn cael y gwaith o ddandwn y cŵn. Pan oedd llywodraethwyr yn marw, byddai ei hoff gi yn cael ei gladdu gydag o er mwyn ei amddiffyn yn y byd nesaf. Mae lluniau o’r cŵn hynafol yma ar waliau beddrodau o’r Oes Efydd a’r hen Aifft ac ar hen sgroliau ym mhob cwr o Ewrop.   

 

Oherwydd ei gymeriad ffyddlon, hoffus ac amddiffynnol o’i feistr, gelwir y ci yn ffrind gorau dyn ac er bod rhai yn dal i gael eu defnyddio i hela, sodli ac amddiffyn, cwmni a ffrind anwesog yw eu pwrpas i’r rhan fwyaf. Mae llawer o fusnesau yng ngwledydd y Gorllewin y dyddiau yma yn cynnig gwasanaeth dandwn cŵn. Maent yn greaduriaid cymdeithasol iawn, mae'n well ganddyn nhw gwmni dyn neu gŵn eraill na bod ar eu pennau eu hunain. 

 

Defnyddir cŵn i bwrpasau eraill heddiw hefyd.  

 

Oherwydd eu deallusrwydd, maent yn cael eu hyfforddi i gynorthwyo’r deillion a phobl anabl. Er mai yr un 5 synnwyr â dyn sydd gan y ci, mae rhai o’i synhwyrau yn finiog iawn ac yn llawer iawn gwell na rhai dyn. Mae ei glyw a’i synnwyr arogli yn arbennig.  

 

Defnyddir cŵn i gynorthwyo’r heddlu i ddal troseddwyr ac i ddod o hyd i ddyfeisiadau ffrwydrol a chyffuriau anghyfreithlon. Yn ddiweddar, clywn ni am gŵn yn cael eu defnyddio fel rhan o’r therapi i wella cleifion mewn ysbytai a chartrefi nyrsio a chlywir hefyd amdanynt yn helpu gyda therapi ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion. 

 

Creadur ffyddlon a chlyfar iawn.  

Geirfa
Esblygu
Esblygu yw newid neu ddatblygu'n raddol
Ci sodli
Ci sydd wedi'i hyfforddi i drafod da byw
Sanctaidd
Wedi'i gysylltu â Duw neu â duw sy'n ymroddedig i grefydd
Beddrod
Claddgell fawr ar gyfer claddu'r meirw
1
Blog
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Cerdyn trump
5
Erthygl newyddion
6
Llythyr
7
Erthygl newyddion
8
Testun & llun
9
Rhyngweithiol