Y Diwrnod y gweles i’r Brenin a'r Frenhines
Annwyl Ddyddiadur,
Mae wedi bod yn ddiwrnod arbennig braidd i bawb ohonon ni yma yn Ysgol y Parc heddiw. Cawson ni ddiwrnod heb wersi, dim llawysgrifen, dim cansenni a dim gweddïau. Yn lle hynny, cerddodd pawb i lawr Stryd Bute i'r Dociau yn dal gafael ar raff drwchus, gan ofalu, wrth inni groesi'r ffyrdd, na fydden ni’n sefyll mewn tail ceffylau (wnaeth Alan ddim edrych ble roedd e’n mynd a chael tail dros ei draed i gyd gan ei fod e’n methu fforddio esgidiau – Ych a fi!).
Aethon ni i weld y Brenin George a'r Frenhines Alexandra, sydd wedi cael hawl gan Dduw i fod yn frenin a brenhines a llywodraethu’n ogoneddus droson ni. Fe ddaethon nhw â'r Dywysoges Victoria gyda nhw, sydd wedi cael ei henwi ar ôl ei mam-gu y Frenhines Victoria a fuodd farw chwe mlynedd yn ôl.
Roedd y strydoedd dan eu sang gyda phobl yn gweiddi ac yn chwifio Jac yr Undeb. Bydd Prydain bob amser yn cael ei galw'n Brydain Fawr! Dyma agoriad swyddogol doc enfawr arall o'r enw "Doc y Frenhines Alexandra". Roedd fy athro i’n dweud bod y ffaith bod cymaint o lo gan Gymru yn brawf bod yna Dduw a’i fod e’n gwenu ar ein Brenin a'n Hymerodraeth. Mae e'n dweud na fydd y glo byth yn dod i ben am fod cymaint ohono ar gael dan y ddaear!
Rydyn ni mor ffodus i fyw yma yng Nghaerdydd lle mae cymaint o bethau'n digwydd ac mae'n mynd yn fwy a mwy prysur a swnllyd bob blwyddyn. Ddwy flynedd yn ôl gawson ni ddiwrnod arall yn rhydd. Roedd y Brenin George wedi dod i ymweld ar y Trên Brenhinol o Paddington (dim ond dwy awr mae'n ei gymryd i gyrraedd yma nawr) i agor Neuadd y Ddinas a chyhoeddi y byddai’n Caerdydd ni, gyda phobl o bedwar ban y byd i gyd yn byw yma, yn cael ei gwneud yn Ddinas!
Duw cadwo’r Brenin! Rwyf mor falch ei fod e’n gallu llywodraethu mor ddoeth dros ein Hymerodraeth Brydeinig wych. Dangosodd ein hathro fap o'r byd i ni, mae’r holl rannau sy'n binc yn perthyn i ni. Anhygoel!
A dyfalwch beth. Yn union fel pan gafodd Neuadd y Ddinas ei hagor, fe gawson ni fedal yr un! Rwyf am gadw hon nes imi dyfu i fyny. Yna, pan fydda i'n hen, fe all fy wyrion ei chael hi!
Tan hynny, mae'n cael ei chadw'n ddiogel yn fy nyddiadur i. Rwy'n gobeithio'n fawr na fydd y geiriau'n pylu fel y bydd pobl yn y blynyddoedd i ddod yn dal i gofio fy niwrnod arbennig pan welais i’r Brenin!
Alice Brown Gorffennaf 1907