Esgid pêl-droed gyda baneri holl dîmau pêl-droed Ewro 2016

Blynyddoedd yn gorffen â 6 – Ewro 2016

Canllaw Rhiant & Athro
Blynyddoedd yn gorffen â 6 – Ewro 2016

Yn 2016 cafodd Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA, sef y gystadleuaeth bêl-droed bedeirblynyddol, ei chynnal yn Ffrainc. Cymru oedd un o'r timau mwyaf ysbrydoledig, gan guro Slofacia, Rwsia, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg ar y ffordd i rownd gynderfynol yn erbyn Portiwgal ar 6 Gorffennaf yn y Stade de Lyon, Lyon.

Yn anffodus, collodd Cymru 2 - 0 i Bortiwgal, ond mewn llawer o ffyrdd roedden nhw’n un o wir enillwyr y twrnamaint. Yn ystod y twrnamaint fe drodd cenedl o rygbi-garwyr yn wallgof o blaid pêl-droed! Cafodd y gêm yn erbyn Portiwgal ei gwylio gan fwy na hanner y wlad. Roedd yn record deledu genedlaethol ar gyfer gwylio digwyddiad chwaraeon yng Nghymru.

Amcangyfrifir bod 20,000 o gefnogwyr wedi teithio i Lyon yn Ffrainc i wylio'r gêm. Gwyliodd 27,000 o gefnogwyr eraill y gêm yn ffanbarth Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd gyda 10,000 arall yn gwylio yn ffanbarth Abertawe.

Y wobr ariannol am fynd â’r tîm i Ffrainc oedd £6.4 miliwn ac roedd yna £1.7 miliwn ychwanegol am eu dwy fuddugoliaeth yng ngrŵp B. Roedd yn £1.3 miliwn pellach am gyrraedd yr 16 olaf, £2.1 miliwn am gyrraedd rownd yr wyth olaf, ac wedyn £3.4 miliwn arall am gyrraedd y pedwar olaf. Dyna gyfanswm o £14.9 miliwn i Gymdeithas Pêl-droed Cymru i gefnogi'r tîm cenedlaethol a'r gêm ar lawr gwlad.

Chafodd rhai o fawrion y gêm fel Neville Southall, Ryan Giggs, Ian Rush a Mark Hughes ddim chwarae erioed mewn twrnament rhyngwladol mawr. Mae Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, James Chester, Chris Gunter a Dave Edwards ymhlith y chwaraewyr o Gymru a fydd yn mynd i lawr mewn hanes am ymddangos yng nghamp mwyaf eu gwlad mewn pêl-droed yn ôl yn 2016.

Yn 2020 (wedi’ ohirio tan 2021) bydd Cymru yn un o'r 24 tîm sy'n gobeithio codi Cwpan Pencampwriaeth Ewrop. Caiff y gystadleuaeth ei chynnal rhwng 21 Mehefin a Gorffennaf 2021 ar draws 11 o ddinasoedd. Bydd Cymru'n chwarae yr Eidal, y Swistir, a Thwrci yng ngrŵp A.

Unwaith eto yn 2021 bydd y genedl yn cefnogi'r tîm cenedlaethol gyda'r hashnod #TogetherStronger. C'mon Cymru!

Geirfa
Gwobr ariannol
Mae gwobr ariannol yn golygu rhoi arian i chi am eich bod chi wedi gwneud rhywbeth, e.e. ennill cystadleuaeth.
Pedeirblynyddol
Mae dwy ran i’r gair, sef pedair a blynyddol, felly yr ystyr yw rhywbeth sy’n digwydd bob pedair blynedd.
Lyon
Lyon yw'r drydedd ddinas fwyaf yn Ffrainc.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
4
Linc
5
Erthygl newyddion
6
Erthygl newyddion
7
Cân / cerdd
8
Fideo
9
Rhyngweithiol