Annwyl Catherine,
Oeddet ti’n gwybod bod dros 2 filiwn o blant a phobl ifanc yn gweithio ar ffermydd coco heddiw?
Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw rhwng 12 ac 16 oed er bod rhai mor ifanc â 5 yn gweithio yno hefyd. Mae rhai’n dringo’r coed er mwyn torri’r ffrwythau gyda machete, heb unrhyw fenig diogelwch, maen nhw’n hollti’r podiau ar agor.
Mae rhai’n pacio ac eraill yn cario sachau trwm. Mae rhai’n defnyddio llifiau cadwyn i dorri coed heb ddillad diogelwch. Mae rhai’n chwistrellu chwynladdwr ar y tir, gan anadlu’r cemegau, gan nad oes ganddyn nhw fwgwd dros eu cegau a’u trwynau. Hyn i gyd er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael siocled … neu far mawr o siocled … neu focs o siocledi ar ein pen-blwydd neu yn ein sanau Nadolig eleni!
Wyt ti erioed wedi ystyried yr effaith mae’r siocledi byddwn yn ei fwyta yn ei chael ar yr amgylchedd? Wrth i’n hawydd am siocled gynyddu, mae’r ffermydd coco’n tyfu’n fwy, ac felly mae mwy a mwy o dir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu coco. O ganlyniad mae clirio ardaloedd mawr, gan gynnwys rhannau o’r fforestydd glaw, er mwyn gwneud lle i fwy a mwy o goed … a mwy a mwy o goco … a mwy a mwy o siocled! Mae hyn, wrth gwrs, yn bygwth bioamrywiaeth yr ardaloedd ac mae cemegau’n difetha’r tir ac yn gwenwyno’r dŵr.
Ble byddi di’n prynu’ch siocledi eleni? Mewn siop siocledi … ar y we … neu mewn archfarchnad o bosib – lle bynnag maen nhw rhataf mae’n siŵr!
Ond cofia, bydd pris y siocled yn uchel ble bynnag byddwch chi’n ei brynu!
Yn gywir
Cai