Beth yw’r galon?

Beth yw’r galon?

Canllaw Rhiant & Athro
Beth yw’r galon?

Mae un peth yn gyffredin gyda phob person byw. Mae gyda ni i gyd galon! Heb galon, fyddai neb yn gallu byw.

  • Pwmp enfawr maint dwrn wedi ei chau yw’r galon.
  • Cyhyr yw hi mewn gwirionedd.
  • Gwaith y galon yw pwmpio gwaed o gwmpas y corff.
  • Mae’n symud gwaed di-ocsigen drwy’r gwythiennau ymlaen i’r ysgyfaint i dderbyn ocsigen cyn ei bwmpio wedyn i’r arterïau.
  • Gwaith yr arterïau wedyn yw symud ocsigen a maeth i feinwe’r corff trwy gario gwaed drwy’r corff.
  • Mae’r galon wedi ei lleoli yn y ceudod wrth ymyl yr ysgyfaint a thu ôl asgwrn y frest.

 

Ffeithiau am y galon. Mae'r galon:

  • tua'r un maint â gellygen.
  • yn pwyso tua'r un faint â dau afal.
  • yn pwmpio gwaed fel ei fod yn mynd unwaith o gwmpas y corff mewn tua munud.
  • yn curo 60 i 100 gwaith y funud. Mae calon babanod newydd anedig yn curo rhwng 130 a 160 gwaith y funud. 
  • yn curo tua 100,000 gwaith y dydd, a 2.5 biliwn o weithiau yn ystod eich bywyd.

 

Clefyd y galon

Os yw rhywun yn bwyta gormod o fraster, mae'n crynhoi yn y rhydwelïau. Mae'r galon yn gorfod gweithio'n galetach i bwmpio'r gwaed drwyddyn nhw. Yn y pen draw, mae'r person yn dioddef o glefyd y galon ac efallai'n cael trawiad ar y galon.

Sut mae osgoi clefyd y galon:

  • ymarfer yn gyson- hyd at 30 munud y dydd. Bydd y galon yn curo'n galetach ac yn dod yn gryfach.
  • peidio â bwyta gormod o fraster- bydd hyn yn cadw'r rhydwelïau'n glir
  • byw'n iach - peidio ag ysmygu na chymryd cyffuriau a pheidio ag yfed gormod o alcohol.

 

Sut datblygodd y galon fel symbol cariad?

Roedd pobl yn arfer meddwl bod enaid person yn trigo yn y galon. Felly, roedden nhw'n credu mai yn y galon roedd person yn gwneud penderfyniadau ysbrydol, moesol, ac emosiynol.

Dros y canrifoedd, daeth y galon yn symbol o gariad. Fel arfer, mae'r galon yn goch, lliw sy'n cyfleu gwaed a hefyd emosiwn ac angerdd.

Geirfa
Angerdd
Teimlad cryf iawn
Enaid
‘Ysbryd’ person
Rhydwelïau
Y pibellau y mae’r gwaed yn mynd drwyddyn nhw
1
Testun & llun
2
Linc
3
Linc
4
Testun & llun
5
Erthygl newyddion
6
Testun & llun
7
Cyfres o luniau
8
Fideo
9
Testun & llun
10
Rhyngweithiol