Adduned – cadw’n iach
fyw. Dyma’n fras beth dw i’n gobeithio ei wneud:
cadw’n heini – dw i’n mynd i drïo’n galetach yn y gwersi chwaraeon. O hyn ymlaen, bydda i’n rhedeg nerth fy nhraed yn y gwersi athletau. Pwy a ŵyr, efallai bydda i’n rhedeg dros Gymru cyn bo hir!
cerdded mwy – bydda i’n mynd mas i gerdded gyda’r teulu dros y penwythnos yn lle aros yn y tŷ. (“Mae cerdded yn dda i’r corff a’r meddwl!” meddai Dad!).
bwyta’n iach – mwy o ffrwythau a llysiau i fi eleni – a llai o sglodion a chreision!
agor cyfrif banc – Mae Dad yn sôn byth a hefyd am gynilo arian. Dw i wedi cael llond bola ar ei glywed e’n dweud, “Mae’n hen bryd i ti fod yn fwy cyfrifol gydag arian!” Mae e’n meddwl fy mod i’n gwario gormod o arian ar ddillad ond dw i ddim yn cytuno!
bod yn fwy positif – dw i’n mynd i ofyn i Erin fynd mas gyda fi ac os yw hi’n gwrthod, fe wna i ofyn i Emma!
ffrindiau – mae llawer o ffrindiau da gyda fi ac felly dw i’n mynd i wneud mwy o bethau gyda nhw eleni. Ymuno gyda’r clwb rhedeg lleol. Gobeithio y bydda i’n gwneud ffrindiau newydd hefyd!
Mae 2021 yn mynd i fod yn flwyddyn fawr i fi. Felly hwyl fawr! Amser cwtsio yn y gwely cynnes.
Hwyl fawr am y tro!