Dathlu Hogmanay yn yr Alban

Arferion Blwyddyn Newydd

Canllaw Rhiant & Athro
Arferion Blwyddyn Newydd

Blwyddyn Newydd Dda! Dyma’r geiriau y byddwn yn eu defnyddio i gyfarch ein gilydd pan fo’r hen flwyddyn yn dod i ben a’r flwyddyn newydd wedi cyrraedd. Mae llawer o bobl heddiw yn cynnal partïon a rhai yn tanio tân gwyllt i groesawu’r flwyddyn newydd.  

 

Fuoch chi erioed mewn dathliadau blwyddyn newydd? Mae Sgwâr Trafalgar yn Llundain fel arfer yn llawn pobl ar nos Calan a phawb yn tyrru i weld y tân gwyllt dros yr Afon Tafwys. Enw ar y dathliadau hyn yn yr Alban yw Hogmanay ac mae traddodiad o ddawnsio a chanu gan blethu dwylo ei gilydd i’w weld ar hyd trefi a phentrefi’r wlad.  

 

Mae’r flwyddyn newydd yn cychwyn pan mae’r cloc yn taro hanner nos ac, oherwydd hyn, dydy pawb yn y byd ddim yn dathlu ar yr un pryd. Pwy sy’n dathlu gyntaf tybed? Ynysoedd Tonga, Samoa a Kiribati yw’r rhai cyntaf i ddathlu ac ynysoedd Howland a Baker wrth ymyl yr Unol Daleithiau America yw’r rhai olaf. 

 

Mae hen arferion sydd yn gysylltiedig â dathlu’r Flwyddyn Newydd yma yng Nghymru. Roedd yr hen galan yn cael ei ddathlu ar Ionawr 13eg nes i’r calendr gael ei newid yn 1752. Doedd y newid hwn ddim yn un poblogaidd ond mabwysiadwyd llawer o arferion yr hen galan i ddathlu’r calan newydd. 

 

Rhai o’r dathliadau hyn oedd yr arferiad o dywys Y Fari Lwyd o gwmpas tai y trefi a phentrefi. Penglog ceffyl ar bolyn oedd y Fari Lwyd a byddai dynion yn ei thywys o dŷ i dŷ gan ganu penillion a gofyn am wahoddiad i mewn i’r tŷ. Byddai pobl y tŷ yn eu hateb a gwae fyddai gwrthod mynediad i’r Fari Lwyd.  

 

Roedd dydd Calan yn ddiwrnod pwysig iawn i’r Cymry. Byddai plant y pentref yn mynd o gwmpas i hel calennig cyn hanner dydd ar fore Calan. 

 

Daeth llawer o’r hen arferion i ben ddechrau’r ganrif ddiwethaf ond maent yn dechrau ail-gydio eto mewn ambell i ardal. 

Geirfa
Calennig
Ar fore dydd Calan, byddai plant yn mynd o dŷ i dŷ i gasglu rhoddion bach, o’r enw calennig.
Hogmanay
Dyma air yr Alban am ddiwrnod olaf yr hen flwyddyn.
Y Fari Lwyd
Un o hen arferion gwerin Cymru yw’r Fari Lwyd.
1
Blog
2
Testun & llun
3
Testun & llun
5
Linc
6
Linc
7
Erthygl newyddion
8
Cân / cerdd
9
Rhyngweithiol