Blwyddyn Newydd Dda! Dyma’r geiriau y byddwn yn eu defnyddio i gyfarch ein gilydd pan fo’r hen flwyddyn yn dod i ben a’r flwyddyn newydd wedi cyrraedd. Mae llawer o bobl heddiw yn cynnal partïon a rhai yn tanio tân gwyllt i groesawu’r flwyddyn newydd.
Fuoch chi erioed mewn dathliadau blwyddyn newydd? Mae Sgwâr Trafalgar yn Llundain fel arfer yn llawn pobl ar nos Calan a phawb yn tyrru i weld y tân gwyllt dros yr Afon Tafwys. Enw ar y dathliadau hyn yn yr Alban yw Hogmanay ac mae traddodiad o ddawnsio a chanu gan blethu dwylo ei gilydd i’w weld ar hyd trefi a phentrefi’r wlad.
Mae’r flwyddyn newydd yn cychwyn pan mae’r cloc yn taro hanner nos ac, oherwydd hyn, dydy pawb yn y byd ddim yn dathlu ar yr un pryd. Pwy sy’n dathlu gyntaf tybed? Ynysoedd Tonga, Samoa a Kiribati yw’r rhai cyntaf i ddathlu ac ynysoedd Howland a Baker wrth ymyl yr Unol Daleithiau America yw’r rhai olaf.
Mae hen arferion sydd yn gysylltiedig â dathlu’r Flwyddyn Newydd yma yng Nghymru. Roedd yr hen galan yn cael ei ddathlu ar Ionawr 13eg nes i’r calendr gael ei newid yn 1752. Doedd y newid hwn ddim yn un poblogaidd ond mabwysiadwyd llawer o arferion yr hen galan i ddathlu’r calan newydd.
Rhai o’r dathliadau hyn oedd yr arferiad o dywys Y Fari Lwyd o gwmpas tai y trefi a phentrefi. Penglog ceffyl ar bolyn oedd y Fari Lwyd a byddai dynion yn ei thywys o dŷ i dŷ gan ganu penillion a gofyn am wahoddiad i mewn i’r tŷ. Byddai pobl y tŷ yn eu hateb a gwae fyddai gwrthod mynediad i’r Fari Lwyd.
Roedd dydd Calan yn ddiwrnod pwysig iawn i’r Cymry. Byddai plant y pentref yn mynd o gwmpas i hel calennig cyn hanner dydd ar fore Calan.
Daeth llawer o’r hen arferion i ben ddechrau’r ganrif ddiwethaf ond maent yn dechrau ail-gydio eto mewn ambell i ardal.