Beth yw hyd y ffyrdd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban?
O'r 247,100 o filltiroedd o ffordd ym Mhrydain Fawr yn 2019, roedd 21,000 o filltiroedd (9%) yng Nghymru, 189,100 o filltiroedd (77%) yn Lloegr, a 36,900 o filltiroedd (15%) yn yr Alban.
Faint o gerbydau sydd ym Mhrydain Fawr?
Ar ddiwedd mis Mehefin 2020, roedd 38.4 miliwn o gerbydau trwyddedig ym Mhrydain Fawr, gostyngiad o 0.9 y cant o'i gymharu â diwedd mis Mehefin 2019. Y rheswm am y gostyngiad oedd y cyfnod clo yn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2020. Bu’n rhaid i werthwyr cerbydau ac ystafelloedd arddangos gau felly cafodd llai o gerbydau eu gwerthu.
Ceir yw'r rhan fwyaf o gerbydau ar ffyrdd y Deyrnas Unedig. Ym Mhrydain Fawr, roedd 31.6 miliwn o geir (82.4%), 4.1 miliwn o Gerbydau Nwyddau Mawr (LGV) (10.7%), 0.47 miliwn o Gerbyd Nwyddau Trwm (1.2%), 1.3 miliwn o feiciau modur (3.4%), 0.12 miliwn o fysiau a choetsys (0.3%) a 0.74 miliwn o gerbydau eraill (1.9%) wedi’u trwyddedu ar ddiwedd mis Mehefin 2020.
Beth yw'r car mwyaf cyffredin ym Mhrydain Fawr?
Ar ddiwedd 2019, y car trwyddedig mwyaf cyffredin oedd y Ford Fiesta, gydag 1.5 miliwn o geir, ac yna Ford Focus gydag 1.2 miliwn a'r Vauxhall Corsa gydag 1.1 miliwn.
Pa mor aml y mae car yn cael ei ddefnyddio neu ei barcio?
Mae'r car cyffredin yn treulio rhyw 80% o'r amser wedi'i barcio gartref, mae’n cael ei barcio mewn mannau eraill tua 16% o'r amser ac felly dim ond yn cael ei ddefnyddio (yn symud) am y 4% arall o'r amser mewn gwirionedd.
Beth oedd hoff liw car newydd yn 2019?
Llwyd oedd hoff liw car newydd y Deyrnas Unedig yn 2019.
Beth yw oedran car ar gyfartaledd?
8 oed.
Yn ystod oes y car cyffredin, faint o berchnogion fydd ganddo?
Dros oes y car ar gyfartaledd, bydd ganddo bedwar perchennog.