Dydd Santes Dwynwen… Dydd Sant Ffolant… Sul y Mamau… Sul y Tadau… y Pasg… pen-blwydd… pen-blwydd priodas… Y Nadolig… mae un anrheg yn siŵr o blesio bob amser…
Ie, siocled!
Mae pobl wedi bod yn rhoi siocled i'w gilydd ers blynyddoedd ond efallai mai'r Frenhines Victoria ddechreuodd yr arfer o roi siocled fel anrheg Nadolig ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd hi eisiau anfon rhodd at ei milwyr oedd yn ymladd yn Ne Affrica yn 1900. Beth anfonodd hi? Bar o siocled mewn tun arbennig.
Siocled amser maith yn ôl
Roedd pobl wedi bod yn mwynhau siocled cyn hyn, hyd yn oed - dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl, efallai. Yr adeg yma, roedd coed coco (Theobroma cacao) yn tyfu yng nghoedwigoedd trofannol America Ganol a De America.
Yno, roedd llwythau'r Maiaid a'r Asteciaid yn defnyddio'r ffa i wneud diod siocled ond nid diod siocled fel rydyn ni'n ei hyfed! Roedden nhw'n ychwanegu tsili a sbeisys!
Roedd ffa siocled yn werthfawr iawn. Roedd pobl yn eu defnyddio nhw fel 'arian' i brynu pethau.
Siocled yn dod i Ewrop
Yn ddiweddarach, aeth dynion o Sbaen a'r Eidal i'r ardal a daethon nhw â siocled yn ôl i Ewrop. I ddechrau, dim ond y bobl gyfoethog oedd yn ei yfed. Roedd rhaid aros tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg nes cael bar o siocled caled y gallai pobl ei fwyta ac roedd rhaid aros tan ddechrau'r ugeinfed ganrif nes bod y rhan fwyaf o bobl yn gallu fforddio prynu siocled.
Erbyn heddiw, mae gwahanol fathau o siocled ar gael. Rydyn ni'n defnyddio siocled ar gyfer gwneud gwahanol fwydydd.
Cofiwch!
Peidiwch byth â rhoi siocled cyffredin i'ch ci. Mae'r siocled rydyn ni'n ei fwyta yn cynnwys theobromin – sy'n ddrwg iawn i gi!