Ynys Enlli

Ynys Enlli

Canllaw Rhiant & Athro
Ynys Enlli

Mae nifer o ynysoedd oddi ar arfordir Cymru. Yr un fwyaf ydy Ynys Môn, ac mae ynysoedd eraill fel Ynys Dewi, Ynys Bŷr ac Ynys Echni. Mae llawer o bobl yn ymweld â’r ynysoedd hyn, ond mae un ynys sydd wedi denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ers canrifoedd, ac yn ôl y sôn mae 20000 o saint wedi eu claddu ynddi. Enw’r ynys hon ydy Ynys Enlli.

Mae Enlli’n gorwedd tua thair milltir oddi ar Benrhyn Llŷn. Y pentref agosaf ydy Aberdaron, ac mae modd trefnu taith ar y cwch o Borth Meudwy draw i Ynys Enlli.

Ganrifoedd yn ôl, adeiladwyd abaty yn Enlli, ac roedd pererinion yn dod o bell ac agos i flasu bywyd iach a thawel yr ynys. Tua 150 o flynyddoedd yn ôl, cafodd capel ei adeiladu yno ac mae’n dal i sefyll hyd heddiw.

Yn 1881 roedd 132 o bobl yn byw yn Ynys Enlli, ond erbyn heddiw dim ond ychydig o bobl sy’n byw yno. Maen nhw’n edrych ar ôl y lle, yn gwarchod y tai a thrin y tir. Mae’r rhan fwyaf yn ymwelwyr am ddiwrnod neu am wythnos o wyliau. Mae modd archebu gwyliau yn y gwahanol dai sydd ar yr ynys ac mae llawer i’w wneud yno. Gallech gerdded ar hyd yr arfordir, neu i fyny i ben mynydd Enlli. Mae pobl yn dod yno i wylio adar neu fywyd gwyllt y môr, fel y morloi sy’n byw o amgylch yr ynys.

Mae’r creigiau o amgylch ynys Enlli yn gallu bod yn beryglus iawn, ac felly cafodd goleudy ei adeiladu i

rybuddio’r llongau rhag dod yn rhy agos. Roedd ceidwad yn arfer byw yn y goleudy i wneud yn siwr fod y golau’n gweithio. Erbyn heddiw does dim angen neb yno i edrych ar ôl y golau.

Os ewch chi draw i Ynys Enlli, byddwch chi wrth eich bodd yno, ac efallai na fyddwch chi eisiau dod yn ôl i’r tir mawr!

Geirfa
Abaty
Abaty yw adeilad lle mae mynachod yn byw.
Arfordir
Yr arfordir yw lle mae’r tir yn cwrdd â’r môr.
Gwarchod
Drwy warchod rydych yn edrych ar ôl rhywbeth.
Pererinion
Pererinion yw pobl sy’n mynd ar bererindod.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Cofnod dyddiadur
5
Linc
6
Linc
7
Cerdyn trump
8
Cyfres o luniau
9
Rhyngweithiol