Trychfilod!

Trychfilod!

Canllaw Rhiant & Athro
Trychfilod!

A wyddoch chi fod trychfilod newydd yn cael eu darganfod o hyd? Mae gwyddonwyr yn gwybod am dros filiwn o rywogaethau gwahanol erbyn hyn ond maent yn credu fod hyd at chwech i ddeng miliwn ohonynt yn byw ar y ddaear.

Trychfilod yw’r enw a roddir ar lawer o greaduriaid bach. Mae trychfilod hefyd yn cael eu galw yn infertebratau. Rhennir trychfilod i 3 grŵp gwahanol:

  • Arthropodau – creaduriaid sydd â’u cyrff wedi rhannu i ddarnau er enghraifft, y corff, coesau ac adenydd. Mae clêr a phry cop yn enghreifftiau o anthropodau.
  • Molysgiaid – creaduriaid sydd fel arfer ag un rhan i’r corff, ac sydd yn aml yn cario cragen, Enghreifftiau o rhain yw gwlithod a malwod.
  • Anelidau – creaduriaid sydd ag un rhan i’w corff sydd wedi cael ei rannu, er enghraifft, mwydod gelenod

Prif synhwyrau trychfilod yw arogl, cyffyrddiad a blas. Maen nhw’n defnyddio rhain yn amlach na chlyw a’u gallu i weld er mwyn deall a dysgu am y byd o’u cwmpas. Maent yn defnyddio teimlyddion, gwallt byr a derbynyddion blas i wneud hyn.

Mae lliw a golwg trychfilod yn hanfodol i’w gallu i oroesi. Tra bo rhai trychfilod yn defnyddio cuddliw er mwyn gallu cuddio yn eu hamgylchfyd mae gan eraill liwiau llachar er mewn rhybuddio anifeiliaid i beidio dod yn agos. Maent yn defnyddio cuddliw i amddiffyn eu hunain rhag cael eu bwyta neu i’w helpu i sleifio’n agos at greaduriaid eraill cyn eu bwyta. Oeddech chi’n gwybod am y lindysyn baw adar? Mae’n edrych yn union fel baw aderyn ac felly’n gallu cuddio rhag yr adar sydd am ei fwyta!!!

Oeddech chi’n gwybod?

  • Mae sgorpionau wedi bod ar y ddaear ers dros 300 miliwn o flynyddoedd!
  • Mae dros 12,000 o rywogaethau o forgrug!
  • Gall chwilen ddu fyw am wythnos gyfan heb ei phen!
  • Wrth gasglu bwyd gall wenynen drafeilio hyd at 60 milltir mewn diwrnod!
  • Mae gan wlithen bedwar trwyn ond dim ond un troed!
  • Mae tua 2000 math gwahanol o wenyn yn y byd, ond dim ond tua phedwar sy’n gallu cynhyrchu mêl!

Yn y rhifyn hwn byddwn yn dysgu llawer am amrywiaeth o drychfilod a chofiwch gymryd y cwis er mwyn dysgu fwy o ffeithiau diddorol a rhyfedd amdanynt.

Geirfa
Cuddliw
Cuddliw yw pan mae gan greadur liw, siap neu wead penodol sy’n ei alluogi i guddio’n dda yn ei gynefin.
Infertebratau
Infertebratau yw creaduriaid sy’n byw heb asgwrn cefn.
Rhywogaeth
Rhywogaethau yw grŵp tebyg o organebau, er enghraifft, mae pobl yn un rywogaeth, mae cwn yn rywogaeth gwahanol.
Synhwyrau
Synhwyrau yw ffyrdd i ddeall a phrofi’r byd. Mae 5 synnwyr gwahanol ar gael – teimlo, blasu, aroglu, clywed a gweld.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Linc
6
Linc
7
Cyfres o luniau
8
Cyfres o luniau
9
Rhyngweithiol