Merch yn syrffio

Syrffio yng Nghymru

Canllaw Rhiant & Athro
Syrffio yng Nghymru

Mae hyd arfordir tir mawr Cymru oddeutu 1,370 milltir (2,205km) a thrwy adio hyn at arfordir Ynys Môn a Ynys Gybi, mae’r cyfanswm oddeutu 1,680 milltir (2,704km). Mae’r arfordiroedd hyn yn gwneud Cymru yn lle delfrydol i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored, yn arbennig syrffio.

Mae Sir Benfro yn fan ddelfrydol i fwynhau gwefr tonnau’r môr gyda syrff Atlantaidd gwych a heriol. Yno mae ysgol syrffio Big Blue a ddechreuwyd gan y syrffiwr enwog Kirsty Jones a’i ffrind. Erbyn heddiw mae cyfleoedd yno i syrffio a phadlfyrddio. Hwn oedd y lleoliad mwyaf godidog i Kirsty Jones ei weld wrth farcudsyrffio ar draws Môr Iweddon o Rosslare i Farloes yn y Gorllewin. Wedi pump awr o fardcudsyrffio a’r gwynt wedi gostegu, tyndra yn cydio, ymddangosodd pâr o ddolffiniaid a nofio wrth ei hochr a’i hannog i gadw i fynd. Yma mae rhai o olygfeydd prydferthaf Cymru wrth agosáu at Ynys Sgomer, ac Ynysweryn (Wormshead).

Mae traethau syrffio Cymru yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid. Dyma i chi restr o’r traethau mwyaf poblogaidd i syrffio yng Nghymru:-

  1. Traeth Mawr, Sir Benfro – un o’r traethau gorau i syrffio yng Nghymru i’r syrffwyr mwy profiadol.
  2. Traeth Coney, Porth-cawl – delfrydol i’r syrffwyr hynny sydd yn byw yng Nghaerdydd neu i’r ardaloedd yn y dwyrain.
  3. Aberdaron, Pen Llŷn – traeth tawel sydd â thonnau bychain ac sy’n ddelfrydol i ddechreuwyr.
  4. Bae Oxwich, Gŵyr – man ddelfrydol i ddechreuwyr.
  5. Llangynydd, Gŵyr – man ddelfrydol i syrffwyr dibrofiad a phrofiadol. Mae llawer o arwyr syrffio Cymraeg yn hanu o benrhyn Gŵyr.
  6. Traeth Poppit, Aberteifi – tonnau bychain sydd yn ddelfrydol i syrffio am gyfnodau byr.
  7. Rhosneigr, Ynys Môn – ddim yn ardal delfrydol i ddechreuwyr.
  8. Arfordir Abersoch – man fwy cysgodol i syrffio ac yn fan delfrydol i ddechreuwyr.
  9. ‘Syrffio Eryri’ – pwll tonnau artiffisial yn Nolgarrog, Dyffryn Conwy. Dyma’r llyn syrffio artiffisial cyntaf yn y byd. Cost y safle oedd £12 miliwn ac fe’i hagorwyd yn Awst 2015.
Geirfa
Cefnfor Iwerydd
Cefnfor Iwerydd yw'r ail gefnfor mwyaf yn y byd gydag arwynebedd o ryw 106,460,000 km2
Arfordir
Diffinnir arfordir neu lan y môr fel yr ardal lle mae tir yn cwrdd â'r môr neu'r cefnfor.
Ynys Gybi
Ynys ar lannau gorllewin Ynys Môn ger Caergybi yw Ynys Gybi. Yn Saesneg mae’n cael ei hadnabod fel "Holy Island" oherwydd y meini hirion yno a'r siambrau claddu crefyddol hynafol.
Barcudfyrddio
Mae barcudfyrddio yn gamp eithafol lle mae'r barcudwr yn defnyddio pŵer y gwynt a barcud mawr i deithio ar draws dŵr, tir neu eira.
1
Blog
2
Testun & llun
4
Linc
5
Linc
6
Erthygl newyddion
7
Cyfres o luniau
8
Fideo
9
Rhyngweithiol