Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Gwynedd

Safle Treftadaeth Byd UNESCO

Canllaw Rhiant & Athro
Safle Treftadaeth Byd UNESCO

Beth sydd yn gyffredin rhwng Wal Fawr China, y Taj Mahal yn India, Côr y Cewri yn Wiltshire ac ardal llechi Gwynedd? Wel maent i gyd wedi ennill safle Treftadaeth Byd UNESCO. Ardal llechi Gwynedd yw’r safle diweddaraf i ennill y statws. Hon yw’r pedwerydd Safle Treftadaeth Byd yng Nghymru sydd wedi cael ei ychwanegu at restr UNESCO. Y tri arall yw Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward I. Mae oddeutu 900 o lefydd ar draws y byd.  

O fewn ardal llechi Gwynedd yr ardaloedd penodol i gael y gydnabyddiaeth yma yw Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Dinorwig, Cwm Pennant, Ffestiniog ac Abergynolwyn. Mae’r ardaloedd hyn yn enwog am ddarparu llechi ar draws y byd. Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, “bydd cydnabyddiaeth UNESCO yn gymorth i ddiogelu gwaddol a hanes cymunedau ardal y llechi am genedlaethau i ddod”. 

Mae’r cais i ennill y statws yma wedi bod ar waith ers 12 blwyddyn. Yn ardal llechi Gwynedd gwelir tirluniau godidog sy’n golygu rhywbeth i’r ddynoliaeth gyfan. Yn ei hanterth roedd dros 3,000 o bobl yn gweithio yn Chwarel Dinorwig  ar lethrau Elidir Fawr yn Nyffryn Peris sef un o’r chwareli llechi mwyaf yn y byd ar un adeg.  

Pa well ffordd i anrhydeddu ardal sydd â gwerth allweddol byd-eang? 

Geirfa
UNESCO
Treftadaeth byd yw lleoliadau o fewn y byd sydd â gwerth allweddol byd-eang i ddynoliaeth.
Traphont Ddŵr Pontcysyllte
Dyma dyfrbont enwog Thomas Telford a gafodd ei ychwanegu at restr UNESCO yn 2009.
Mark Drakeford
Ganed a magwyd Mark Drakeford yn Sir Gaerfyrddin. Daeth yn Brif Weinidog Cymru ar y 13eg Rhagfyr 2018.
Chwarel Dinorwig
Chwarel Dinorwig oedd un o’r ddwy chwarel fwyaf yng Nghymru gyda Chwarel Y Penrhyn. Ar un adeg y ddwy yma oedd y chwareli mwyaf yn y byd.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Cofnod dyddiadur
6
Rhyngweithiol
7
Linc
8
Cerdyn trump
9
Fideo