Pererindod Hajj

Pererindod

Canllaw Rhiant & Athro
Pererindod

Beth yw pererindod?

Taith grefyddol yw pererindod pan fydd pobl yn ymweld â llefydd sanctaidd, boed yn adeilad, yn gerflun neu yn fan arbennig. Gall pererindod hefyd fod yn un ysbrydol.

 

Pwy sy’n mynd ar bererindod?

Mae pererinion o bob crefydd yn mynd ar bererindodau. Mae llawer yn galw pererinion yn dwristiaid ond, mewn gwirionedd, maen nhw’n bethau hollol wahanol. Beth am i chi ddysgu fwy am bererindod yn yr erthygl yma ac yna gweld beth ydych chi’n credu yw’r gwahaniaeth rhwng pererinion a thwristiaid?

Mae pobl o bob ffydd yn gallu mynd ar bererindod. I Fwslemiaid mae’n un o’r pum piler (sy’n eu hannog i fyw bywyd Islamaidd yn llawn). Nid oes un man penodol i ymweld ag ef wrth fynd ar bererindod. Mewn llawer o gredoau mae nifer o fannau sanctaidd y mae pobl yn ymweld â nhw.

 

Pam mynd ar bererindod?

Mae pererinion yn mynd ar bererindodau am lawer o resymau. Mae rhai crefyddau yn annog pobl i fynd ar bererindod er mwyn mynegi eu ffydd. Mae rhai yn mynd ar bererindod er mwyn ceisio cael eu iachàu os ydynt yn sâl. Yna aml, bydd pererinion yn mynd ar bererindod er mwyn dysgu mwy am eu ffydd grefyddol.

 

Mannau sanctaidd o gwmpas y byd:

Mae llawer o fannau sanctaidd o gwmpas y byd. Dyma restr o’r rhai mwyaf poblogaidd heddiw:
• Lumbini yn Nepal
• Y Fatican yn yr Eidal
• Wittenberg yn yr Almaen
• Mecca yn Saudi Arabia
• Badrinath yn India
• Y Deml Aur yn India
• Sri Pada yn Sri Lanka
• Y Wal Orllewinol yn Israel

 

Mannau sanctaidd yng Nghymru:

Mae’r rhestr o’r mannau sanctaidd yng Nghymru yn un faith! Dyma ambell i fannau poblogaidd ar gyfer pererindodau:

• Tyddewi
• Ynys Enlli
• Capel Soar y Mynydd
• Ynys Bŷr
• Eglwys Sant Cybi

Geirfa
Pererin:
Yr enw a roddir ar berson sy’n mynd ar y pererindod.
Pererinion:
Mwy nag un pererin.
Twristiaid:
Rhywun sy’n ymweld â rhywle mewn mwyn boddhad.
Y Fatican:
Dyma ble mae’r Pab yn byw.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Cofnod dyddiadur
6
Linc
7
Cerdyn trump
8
Cyfres o luniau
9
Cyfres o luniau
10
Rhyngweithiol