O Dan y Dŵr

O Dan y Dŵr

Canllaw Rhiant & Athro
O Dan y Dŵr

Mae’r erthygl hon yn un am rywbeth di-liw, ond mae’r cynnwys yr un mor lliwgar a difyr ag arfer. Mae digon yn y rhifyn hwn i dorri’ch syched am wybodaeth! 

Mae 71% o’r Ddaear wedi’i orchuddio gan ddŵr ac mae 96.5% o hwnnw yn foroedd. Mae hyd yn oed yn bosib darganfod afonydd a llynnoedd o dan y môr! 

Allwch chi feddwl am wahanol gyrff o ddŵr? 

Mae niferoedd ohonyn nhw ar gael ar draws y byd, o’r môr i gronfeydd dwr, o’r afonydd i wlypdiroedd , o’r llynnoedd i gamlesi? 

A fedrwch chi feddwl am enghreifftiau o rhain yma yng Nghymru? 

Ydych chi wedi clywed am rhain? 

  • BaeCaswel – Bae bychan ym Mhenrhyn Gwyr sy’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yng Nghymru 
  • Llyn Tegid – LlynynY Bala 
  • CamlasLlangollen – Camlas sy’n cysylltu Llangollen a Nantwich yn Swydd Gaer. Mae’r gamlas yn 44 milltir o hyd. 
  • AfonTywi – 75milltir o afon odidog sy’n rhedeg drwy Sir Gaerfyrddin 
  • CronfaddŵrLlyn Clywedog – Llyn wedi’i wneud gan ddyn ger Llanidloes yw’r gronfa ddŵr yma. Mae ei arwynebedd yr un maint â 230 o gaeau pêl-droed! 

Rydych chi’n siŵr o fod yn gyfarwydd â beth sy’n digwydd uwchben y dŵr… hwylio cychod, hwylfyrddio neu rwyfo, ond ydych chi’n gwybod beth sy’n mynd ymlaen o dan y dŵr? 

Mae stôr o drysorau o dan y dŵr, a na, nid trysor y môrladron yw’r unig drysor y gallwch chi ei weld yno! 

Beth am fynd i ddarllen am barc llawn cerfluniau, am chwedlau Cymru neu'r ddinas gafodd ei darganfod 1200 mlynedd ar ôl iddi foddi? 

Geirfa
Afon
Llif mawr naturiol o ddŵr yn llifo i mewn i’r môr, llyn neu afon arall.
Bae
Bae yw darn o’r môr lle mae’r tir yn troi tuag ar i mewn.
Camlas
Lle sydd wedi cael ei adeiladu i ganiatáu i gychod neu longau fynd i mewn i’r tir.
Cronfa Ddŵr
Llyn mawr naturiol neu artiffisial sy’n cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell cyflenwad dŵr.
Llyn
Corff eithaf mawr o ddŵr sy’n symud yn araf ac yn gorwedd mewn basn yn y tir yw llyn.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Cofnod dyddiadur
4
Cerdyn gwybodaeth
5
Llythyr
6
Rhyngweithiol
7
Cân / cerdd
8
Cerdyn gwybodaeth
9
Cyfres o luniau