Sgamiwr

Nid aur yw popeth melyn

Canllaw Rhiant & Athro
Nid aur yw popeth melyn

Mae 36 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu targedu gan sgamwyr hyd yma yn 2021! (Cyngor ar Bopeth, Mehefin 2021)

Pwy yw Cyngor ar Bopeth?

Rhwydwaith o elusennau annibynnol yw Cyngor ar Bopeth ac mae’n cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn ac yn bersonol. Maen nhw’n rhannu cyngor annibynnol er mwyn grymuso pobl â gwybodaeth a hyder i wynebu eu problemau a datrys anawsterau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys hawliau defnyddwyr.

Yn ôl astudiaeth ddiweddar gan Cyngor ar Bopeth, mae mwy na dwy ran o dair o oedolion wedi'u targedu gan sgamiwr ers mis Ionawr 2021.

Hyd yn hyn yn 2021 mae 73% o bobl dros 55 oed wedi dod i gysylltiad â sgamiwr, o’i gymharu â 57% ymysg pobl dan 34 oed. Roedd 9% o bobl dan 34 oed wedi dioddef sgam o’i gymharu â 2% o bobl dros 55 oed. Ar sail ymchwil gan Cyngor ar Bopeth yn 2021, mae'r rhai 34 ac iau bron pum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef sgam.

Roedd 61% o bobl iau yn fwyaf tebygol o gael eu targedu drwy wasanaeth testun neu wasanaeth negeseuon, tra oedd 73% o'r rhai dros 55 oed yn fwyaf tebygol o gael eu targedu dros y ffôn.

Mae'r gwahanol dactegau sy’n cael eu defnyddio gan sgamwyr yn cynnwys:

  • Dyn oedrannus a anfonodd £240,000 i gyfrif roedd yn credu ei fod yn perthyn i'w fanc.
  • Collodd menyw ifanc £2,000 i gwmni crypto-arian ffug ar ôl cael neges oddi wrth gyfrif cyfryngau cymdeithasol ffrind iddi oedd wedi cael ei hacio.
  • Menyw a gollodd £750 roedd hi wedi'i anfon at fridiwr cŵn ffug.

Mae gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn cadarnhau bod adroddiadau am sgamiau ar gynnydd. Yn ystod pum mis cyntaf 2021, mae nifer y sgamiau a gofnodwyd wedi mwy na dyblu o’i gymharu â'r un cyfnod yn 2020.

Mae negeseuon ebost sgam wedi cynyddu 667%, ac mae sgamiau drwy alwadau ffôn wedi cynyddu 60%.

Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi pobl yn gyntaf ac maen nhw yma i helpu. I gael help, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth yn lleol.

Peidiwch â theimlo embaras ynghylch rhoi gwybod am sgam – mae sgamwyr yn glyfar, gall sgamiau ddigwydd i unrhyw un.

Geirfa
Annibynnol
Mae annibynnol yn golygu bod rhywbeth neu rywun heb ddod o dan ddylanwad neu reolaeth pobl eraill.
Crypto-arian
Mae Crypto-arian yn arian digidol neu rithwir sy'n bodoli'n electronig.
Dioddefwr
Mae dioddefwr yn berson sydd wedi cael ei niweidio'n gorfforol, yn ariannol neu'n emosiynol.
Sgamiwr
Mae sgamiwr yn berson sy'n gwneud arian drwy ddefnyddio dulliau anghyfreithlon.
1
Testun & llun
2
Cofnod dyddiadur
3
Testun
4
Testun
5
Linc
6
Erthygl newyddion
7
Cyfres o luniau
8
Fideo
9
Rhyngweithiol