Storm Freya yn taro goleudy Porth-cawl ym mis Mawrth 2019

Newid hinsawdd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Byd!

Canllaw Rhiant & Athro
Newid hinsawdd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Byd!

Beth yw newid yn yr hinsawdd?

Mae ‘newid yn yr hinsawdd’ yn cyfeirio at newid hirdymor ar raddfa fawr ym phatrymau tywydd y blaned ac yn y tymheredd cyfartalog. Newid yn yr hinsawdd yw'r newid hirdymor mewn patrymau tywydd cyfartalog ar draws y byd. Ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae pobl yn cyfrannu at ryddhau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill i'r awyr. Mae hyn yn achosi i’r tymheredd byd-eang godi, gan arwain at newidiadau hirdymor yn yr hinsawdd.

 

Sut mae pobl yn newid yr hinsawdd?

Yn yr 11,000 o flynyddoedd cyn y Chwyldro Diwydiannol, roedd y tymheredd cyfartalog ar draws y byd yn sefydlog, tua 14°C. Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddechreuon ni losgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy ar gyfer tanwydd.


Mae llosgi tanwyddau ffosil (glo, olew, nwy) yn cynhyrchu ynni, ond mae hefyd yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr, fel carbon deuocsid a methan, i'r awyr. Dros amser, mae llawer iawn o'r nwyon hyn wedi cronni yn yr atmosffer.


Er enghraifft, cododd lefel y carbon deuocsid yn yr atmosffer 40% yn ystod yr 20fed ganrif a'r 21ain ganrif ac erbyn hyn mae hi dros 400ppm (rhannau y filiwn). Mae'r lefel hon o garbon deuocsid yn uwch nag ar unrhyw adeg yn yr 800,000 o flynyddoedd diwethaf!
Pan fyddan nhw yn yr atmosffer, mae nwyon tŷ gwydr fel carbon deuocsid yn ffurfio 'blanced' o amgylch y blaned. Mae'r blanced hon yn dal gwres yr haul i mewn ac yn achosi i'r ddaear gynhesu. Fe sylwyd ar yr effaith hon mor bell yn ôl â'r 1980au. Ym 1988, cafodd y Panel Rhyngwladol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ei sefydlu, i roi gwybodaeth i lywodraethau er mwyn iddyn nhw fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. www.ipcc.ch


Yn cynnwys gwybodaeth sector cyhoeddus sydd wedi’i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored v3.0

Geirfa
Newid yn yr hinsawdd
Newid yn yr hinsawdd yw'r newid hirdymor ym phatrymau tywydd y blaned a’r tymheredd cyfartalog.
Chwyldro Diwydiannol
Digwyddodd y Chwyldro Diwydiannol o'r ddeunawfed ganrif hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chafodd nwyddau eu cynhyrchu ar raddfa fawr.
Methan
Daw methan o ffynonellau naturiol, fel gwlyptiroedd a threuliad anifeiliaid, ynghyd â chynhyrchu olew a nwy. Mae nwy naturiol yn cynnwys tua 90% o fethan.
Atmosffer
Haen neu set o haenau o nwyon o amgylch planed yw'r atmosffer.
1
Sain
2
Blog
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Linc
6
Erthygl newyddion
7
Cyfres o luniau
8
Linc
9
Rhyngweithiol