Llifogydd

Llifogydd yng Nghymru

Canllaw Rhiant & Athro
Llifogydd yng Nghymru

Mae mwy na 5 miliwn o bobl Cymru a Lloegr yn byw ac yn gweithio mewn mannau sydd o fewn perygl llifogydd môr neu afon. Mae'r bygythiad yn fwy mewn rhai lleoedd, ac felly maent mewn preygl yn amlach na lleoedd eraill. Efallai y bydd newid yn yr hinsawdd yn peri llifogydd amlach yn y dyfodol. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (www.cyfoethnaturiol.cymru) yn un o amryw gyrff sy'n gweithio er mwyn ein cadw ni'n ddiogel. Yn ystod llifogydd yng Nghymru, bydd y gwasanaethau brys (heddlu, tân ac ambiwlans) yn gweithio ag awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru er mwyn sicrhau fod cymunedau cyn ddiogeled ag y bo modd. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig gwasanaeth arbennig sy'n rhybuddio pobl mewn da bryd ynghylch llifogydd posibl. “Rhybuddion Floodline Uniongyrchol” yw enw'r gwasanaeth hwn. Os yw'r gwasanaeth arbennig hwn ar gael yng nghyffiniau'ch cartref neu'ch ysgol chi, gallwch ofyn am dderbyn rhybuddion llifogydd ar ffurf galwad ffôn, e-bost neu neges destun. Ymwelwch â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu galwch Floodline ar 0845 988 1188 a rhowch eich cyfeiriad a'ch cod post.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gwneud mapiau sy'n dangos ble sydd dan fygythiad llifogydd. Mae'r mapiau hyn ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Cliciwch yma er mwyn canfod a oes perygl llifogydd ddigwydd yn eich ardal chi. Ydych chi'n byw mewn ardal o'r fath, neu'n mynd i ysgol yn un? 

Un agwedd yn unig ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru yw mesur newidiadau yn lefelau dŵr afonydd. Mae gwybodaeth lefelau afonydd ar y rhyngrwyd bellach, fel y gall pobl weld lefel afon yn fyw i’r funud. Cliciwch yma er mwyn gweld lefelau afonydd yn eich ymyl chi. 

Yn ogystal â siarad â phobl am y perygl o lifogydd sy’n eu hwynebu, mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn adeiladu cynlluniau atal llifogydd i helpu i leihau'r perygl o lifogydd yng Nghymru. Mae cynlluniau atal llifogydd yn gallu helpu i ddiogelu tref neu bentref rhag llifogydd. Efallai eich bod chi’n gwybod am amddiffynfeydd ar hyd afon yn eich ardal chi sy’n diogelu tref, pentref, ffordd neu reilffordd. Gall newid yn yr hinsawdd a phatrymau tywydd gwahanol olygu y bydd llifogydd yn waeth yn y dyfodol. Mae hynny’n golygu na allwn ni ddibynnu ar amddiffynfeydd rhag llifogydd i'n gwarchod ni, ac felly mae'n bwysig bod pawb sy'n byw mewn lle a allai gael llifogydd yn gwybod beth allan nhw ei wneud i helpu i amddiffyn eu teuluoedd a'u cartrefi.

Geirfa
Llygredd
Llygredd yw cyflwyniad o ddeunyddiau niweidiol i'r amgylchedd.
Halogi
I wneud yn anaddas i'w defnyddio gan ychwanegu rhywbeth niweidiol neu annymunol.
Storm Ciara
Esiampl o enw strom. Asiantaethau Meteorolegol y Byd sy'n penderfynu pan fydd storm yn cael enw a beth i'w alw.
1
Linc
2
Testun & llun
3
Cerdyn gwybodaeth
4
Erthygl newyddion
5
Cerdyn trump
6
Cyfres o luniau
7
Linc
8
Linc
9
Rhyngweithiol