Bae Ceredigion

Gwylanod, storm a thonnau’r môr - Chwedl Merched y Môr

Gwylanod, storm a thonnau’r môr - Chwedl Merched y Môr

Tair merch hardd iawn o ardal Cei Newydd oedd Branwen, Gwenllian a Llio. Roedden nhw’n byw gyda’u tad bonheddig mewn plasty mawr ar y creigiau uwchben y traeth. Bob dydd, byddai’r merched yn mynd am dro ar hyd y traeth ac yn gwrando ar y tonnau bach yn sibrwd ar yr awel. 

‘Branwen, Gwenllian, Llio – merched hardda’r byd.’ 

Cariodd tonnau’r môr yr hanes am harddwch y merched i bob cwr o’r byd. Roedd pawb yn rhyfeddu o weld eu llygaid glas, disglair, eu croen sidanaidd a’u gwallt hir, euraidd. Aeth y sôn amdanyn nhw drwy’r tonnau ac i lawr i ddyfnderoedd y môr at y môr-forynion ac at Dylan, Brenin y Môr, oedd yn byw yn ei gastell cwrel a grisial o dan y dŵr. 

Un diwrnod, penderfynodd Dylan y byddai’n rhaid iddo fynd i Geinewydd i weld y merched hardd drosto’i hun. Nofiodd drwy’r tonnau a chodi’i ben uwchben y dŵr. Doedd Dylan ddim yn gallu credu pa mor hardd oedd y merched. Ar ôl mynd yn ôl i’w gastell dan y môr y noson honno, penderfynodd y byddai’n rhaid iddo gael y tair i fyw gydag e.  

Y noson wedyn, roedd storm ddychrynllyd yn ardal Cei Newydd. Chwipiodd y gwynt y tonnau ar hyd y traeth gan olchi dros gychod y pysgotwyr yn yr harbwr. Chwyddodd y dŵr gan lapio’r creigiau o gwmpas y plasty uwchben gan godi ofn ac arswyd ar bawb. Meddyliodd Branwen iddi glywed sŵn rhywun yn galw y tu allan i’r plasty a phenderfynodd fynd i’r drws i weld beth oedd yn bod. Cyn gynted ag yr agorodd y drws, caeodd hwnnw’n glep y tu ôl iddi a diflannodd i’r nos. Aeth Gwenllian i weld beth oedd wedi digwydd i’w chwaer a chyn gynted ag yr agorodd hi’r drws, caeodd hwnnw’n glep eto a diflannodd hithau i’r nos. Dim ond Llio oedd ar ôl nawr, a chan ei bod hi’n dechrau gofidio am ei chwiorydd, aeth hithau draw at y drws a’i agor. Cyn gynted ag y gwnaeth hynny, gallai deimlo tonnau’r môr yn goglais ei thraed a’r ewyn yn anwesu ei boch. Yna, teimlodd law ar ei hysgwydd – llaw wlyb Dylan, Brenin y Môr. 

Erbyn y bore, roedd y storm wedi tawelu. Cododd y tad a sylweddoli’n sydyn iawn nad oedd ei ferched yno. Gyrrodd ei weision lawr i’r pentref i chwilio amdanyn nhw a chyn bo hir, daeth un ohonyn nhw nôl â’i wynt yn ei ddwrn. Roedd e wedi bod yn siarad â physgotwr yn y pentref oedd wedi bod allan y noson gynt yn edrych ar ei gwch pan welodd wallt euraidd hir yn nhonnau’r môr. Torrodd y tad ei galon. Roedd e’n gwybod mai gwallt euraidd hir oedd gan Branwen, Gwenllian a Llio.  

Yn ei gastell cwrel a chrisial o dan y môr roedd Dylan, Brenin y Môr. Er ei fod wedi llwyddo i gipio Branwen, Gwenllian a Llio i fyw gydag e o dan y tonnau, roedd hi’n amlwg nad oedd y merched yn hapus o gwbl. Roedd hiraeth arnyn nhw – hiraeth am eu tad, hiraeth am Geinewydd a hiraeth am eu bywyd ar y tir. Er bod Dylan wedi cael ei ddymuniad, doedd yntau ddim yn hapus wrth weld y dagrau yn llygaid merched hardda’r byd. Sylweddolodd y byddai’n rhaid iddo wneud rhywbeth i’w cysuro nhw. Allai’r merched byth â mynd nôl i fyw at eu tad. Ceisiodd feddwl sut allai eu gwneud nhw’n rhan o’r môr ac yn rhan o’r tir ar yr un pryd. Yna, cafodd syniad. Trodd y tair yn wylanod gwyn, hardd. Fe allen nhw wedyn hedfan yn ôl i’r tir at eu tad yn ystod y dydd a dod nôl ato i’w gastell o dan y môr gyda’r nos. 

Bob dydd felly, byddai’r tair gwylan yn hedfan nôl i draeth Cei Newydd, lle roedd eu tad yn dal i gerdded nôl a ’mlaen bob dydd yn chwilio amdanyn nhw. Byddai’r tair yn glanio yn ei ymyl ac yn cadw cwmni iddo. Daeth y tad i sylweddoli’n sydyn iawn mai ei ferched e oedd y tair gwylan hardd, ond roedd ei hiraeth amdanyn nhw’n dal i dorri ei galon. 

Roedd hiraeth ar y merched hefyd. A dyna, medden nhw, pam mae cri pob gwylan yn swnio mor drist, hyd yn oed heddiw. Maen nhw’n dal i hiraethu am 

‘Branwen, Gwenllian, Llio - merched hardda’r byd.’ 

1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Llythyr
4
Erthygl newyddion
5
Cyfres o luniau
6
Fideo
7
Rhyngweithiol
8
Rhyngweithiol