Golau Seren Aur Nadolig

Gŵyl y Goleuni: Croeso i dymor y Nadolig

Gŵyl y Goleuni: Croeso i dymor y Nadolig

Mae cyfnod y Nadolig yn amser inni dreulio amser hapus ac yn gyfnod o ddathliadau arbennig i nifer fawr o grefyddau a gwledydd ar draws y byd.  

 

Dethlir Gŵyl Diwali gan yr Hindŵ sef “Deepavali” neu Gŵyl y Goleuni. Eleni yn 2021 fe ddethlir yr Ŵyl hon ar Tachwedd 4ydd. Dyma noson dywyllaf y calendr Hindŵ ac mae’n dynodi dechreuad newydd iddynt cyn y lleuad newydd nesaf. Yn yr India gwelir y dathliadau mwyaf lliwgar a chyffrous gan lawer yn cynnwys Sikhiaid a Bwdist Newar. Fel y Cristion yng Nghymru sy’n dathlu’r Nadolig neu enw arall, “Gŵyl y Geni”, gosodir addurniadau arbennig o gwmpas y tŷ a’r trefi a’r siopau dros y cyfnod hwn. Bydd coeden Nadolig i’w gweld ar bron pob aelwyd! Hefyd mae’r bobl yn bwyta prydau a bwydydd arbennig i ddathlu’r ŵyl. Mae’r Gŵyl y Goleuni neu Diwali yn ymestyn dros 5 diwrnod. 

 

Yn draddodiadol byddwn yn bwyta twrci neu gig da pluog, cacen ffrwythau ‘Dolig wedi ei haddurno ag eisin gwyn, pwdin plwm, mins peis, losin a siocled! Fel ni, mae bwydydd traddodiadol gan bobl India. Byddant yn coginio a bwyta samosas, aloo Bonda, sooji Halwa, bhajis. Mae’n siŵr eich bod wedi clywed rhai o’r enwau, yma os ydych wedi ymweld â bwyty Indiaidd. Bydd y dynion a’r merched hefyd yn gwisgo dillad llachar wedi eu haddurno efo mwclis disglair ac o ddefnyddiau silc, siffon crêp a melfed. Bydd y dynion yn gwisgo’r kurta a dhoti.   

 

Yn ystod y cyfnod yng Nghymru bydd cymunedau Cristnogol yn arfer mynychu capel neu eglwys i addoli ac i diolch i Dduw. Byddant yn canu carolau Nadolig yn y capel ac ar y strydoedd. Cynhelir Gŵyl y seren gannwyll, neu Cristingl yn yr eglwys. Edrychir ymlaen at dderbyn a rhoi anrhegion ac mae prysurdeb y paratoi dros gyfnod yr Adfent yn gyffrous iawn i blant a phobl. Thema o gariad yw’r ŵyl ac mae cyfle i wrando ar storïau a chwedlau am roi a derbyn ar draws y gwledydd. Bydd elusennau hefyd yn gwerthu cardiau i godi arian i bobl llai ffodus dros yr ŵyl.  Arferiad yma yw ysgrifennu cardiau neu anfon negeseuon ffôn i gyfarch a dymuno’n dda. Disgwylir Siôn Corn, neu Santa Claus, Sant Nicolas alw heibio i roi anrhegion. Yn Rwsia Babwshca ddaw heibio. Mae gan bob gwlad ei henw ei hun ar Siôn Corn! Cliciwch ar y ddolen i wrando ar gân am y Nadolig wedi'i pherfformio gan Alys Williams. https://youtu.be/UNFvx0c2PdM   

Geirfa
Carol –
Cân neu emyn yn dathlu digwyddiadau’r Nadolig cyntaf.
Hindŵ -
Person sy'n credu mewn crefydd o'r enw Hindŵaeth
Traddodiad –
Arfer sy’n cael ei basio o un genhedlaeth i’r llall.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
5
Linc
6
Linc
7
Linc
8
Llythyr
9
Fideo
10
Rhyngweithiol