Faint o arian poced ddylech chi ei gael?

Canllaw Rhiant & Athro
Faint o arian poced ddylech chi ei gael?

Yn yr ymchwil ddiweddaraf ar Arian Poced gan fanc adnabyddus ar y stryd fawr, wedi'i seilio ar rieni sydd â phlant rhwng 8 a 15 oed, gofynnodd yr ymchwilwyr a oedden nhw'n talu eu plant am wneud (neu beidio â gwneud) gweithgareddau a thasgau penodol gartref. Yn ogystal â chyfeirio'u plant i ffwrdd o ddyfeisiau digidol fel ffonau, llechi a pheiriannau hapchwarae, roedd un o bob pump (20%) o'r rhieni yn defnyddio arian poced fel ffordd o gael eu plentyn i'r gwely! Roedd 15% o'r rhieni'n rhoi arian poced os byddai eu plentyn yn gorffen ei waith cartref!

Mae bron dwy ran o dair (66%) o'r rhieni yn talu eu plant i helpu gyda thasgau yn y cartref, er bod 53% yn credu y dylen nhw wneud y gorchwylion beth bynnag. Dywedodd 30% o'r rhieni y bydden nhw'n fodlon atal y taliadau pe na bai'r gwaith yn cael ei gwblhau yn ôl eu safonau nhw.

Mae'r ymchwil ddiweddaraf gan fanc blaenllaw ar y stryd fawr yn dangos bod:

  • 36% o blant yn cael arian poced am gymhennu eu hystafell wely
  • 27% am lanhau
  • 27% am olchi'r llestri

Amser cael hwyl!

Ar ôl gorffen eu holl waith a gorchwylion, a chyda cheiniogau ychwanegol yn eu pocedi, mae gan blant lawer o ddewisiadau o ran defnyddio'r arian maen nhw wedi'i ennill. Mae bron hanner (42%) yn prynu melysion â'u harian poced, mae 31% yn defnyddio'r arian ar gemau, a 30% ar deganau.

Mae'r mwyafrif llethol o'r rhieni (93%) yn annog eu plant i gynilo'u harian, er bod hanner y rhieni (49%) hefyd yn gadael i'w plant lawrlwytho apiau, neu wario ar wasanaethau ffrydio cerddoriaeth, ffilm a theledu.

Felly faint o arian poced mae plant yn ei gael ar gyfartaledd?

Eleni, £7.71 oedd yr arian poced a gâi plant ar gyfartaledd, i fyny o £7.01 yn 2018. Mae chwarter y rhieni (25%) yn credu bod yr arian maen nhw'n ei roi i'w plentyn yn ormod, o'i gymharu ag ychydig o dan hanner y plant (43%) sy'n credu y dylen nhw gael mwy! Faint rydych chi'n ei gael bob wythnos? Ydy hynny'n ormod neu'n rhy ychydig?

 

Dywedodd Giles Martin, Pennaeth Cynilion Halifax:

“Gan fod dros 70% o blant yn dal i ddefnyddio cadw-mi-gei i gynilo'u ceiniogau, gall misoedd yr haf fod yn gyfle gwych i'r plant weld faint gallan nhw ei ennill neu ei gynilo erbyn mynd yn ôl i'r ysgol.”

Geirfa
Canran
Canran neu % yn golygu 'allan o 100.
Llog
Mae llog yn cael ei gyfrifo fel canran o'r benthyciad sy'n ddyledus i'r benthyciwr am y fraint o ddefnyddio eu harian.
Cyfartaledd
Mae cyfartaledd yn cyfeirio at y 'canol' neu'r pwynt 'canolog'.
1
Cofnod dyddiadur
2
Linc
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Erthygl newyddion
6
Cerdyn trump
7
Cyfres o luniau
8
Rhyngweithiol
9
Testun & llun