Cymru ar draws y byd

Cymru ar draws y byd

Canllaw Rhiant & Athro
Cymru ar draws y byd

Mae dylanwad Cymry yn teithio ymhell tu hwnt ffiniau Cymru. Mae pawb yn gwybod am y cysylltiadau Cymreig sydd gan Gymru gyda’r Wladfa ym Mhatagonia ar gyfandir De America. Ond a wyddoch fod y Cymry wedi dylanwadu ar enwau lleoedd ar draws y byd? Beth am ymchwilio ymhellach i’r lleoliadau isod?

Mae Llanymddyfri neu Llandovery yn dref farchnad a'r gymuned yn sir Gaerfyrddin, Cymru. Ond mae yna Landovery arall ar ynys fach yn y Caribî o’r enw Jamaica. Mae'r dref yn adnabyddus am y 'One-Penny Stamp', ac am felin siwgr fyd enwog. Tybed sut cafodd enw tref o Gymru ei roi ar ardal St Ann yn Jamaica?

Tybed os ydych wedi bod ar wyliau i Landudno? Na, nid Llandudno yng ngogledd Cymru ond Llandudno yn Ne Affrica? Yn rhan o ddinas Cape Town cafodd ‘Llandudno Beach’ ei henwi fel treflan yn 1903. Mae'n ardal freintiedig iawn, ac mae rhai o'r tai mwya' costus yn Dde Affrica gyfan wedi eu hadeiladu yno. Mae'n debyg bod hi wedi ei henwi oherwydd y tebygrwydd rhwng y ddwy ardal lan môr. Edrychwch ar luniau o’r ddau leoliad a chymharu’r dirwedd o’u cwmpas.

Rydym i gyd yn gwybod mai Caerdydd yw prif ddinas Cymru. Oeddech chi’n gwybod bod yna dref o’r enw Caerdydd mewn mwy nag un wlad ar draws y byd? Mae tref o’r enw Cardiff i’w gael yn Taranaki, Ynys y Gogledd, Seland Newydd. Gallwch ddod ar draws Cardiff yn Alberta, Canada a Cardiff, Alabama, Unol Daliaethau America.

Mae’n debyg fod Cardiff-by-the-sea yng Nghaliffornia wedi ei henwi yn 1911 gan ddynes oedd yn frodor o Gaerdydd yng Nghymru.

Beth am ymchwilio enwau o’ch ardal chi. Oes enw tebyg i’w gael mewn lleoliad gwahanol yn y byd?

1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Linc
6
Erthygl newyddion
7
Cân / cerdd
8
Cyfres o luniau
9
Fideo