Cyfathrebu

Cyfathrebu drwy’r oesoedd

Canllaw Rhiant & Athro
Cyfathrebu drwy’r oesoedd

Cyfathrebu yw trosglwyddo neges o un person i berson arall a gellir gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd. Mae’n ffordd hanfodol o rannu ein meddyliau ac yn ein helpu ni i ddeall y byd o’n cwmpas. Rydyn ni’n cyfathrebu gyda phobl eraill yn ddyddiol boed yn ysgrifennu e-bost at aelod o’r teulu, dweud diolch wrth y doctor neu chwarae gyda ffrind.

Gall gyfathrebu hefyd olygu sut mae person yn trosglwyddo negeseuon i lawer o bobl yr un pryd. Allwch chi feddwl am sut mae un person yn gallu rhoi gwybodaeth i fwy nag un person arall? Gall fod drwy’r teledu, ar wefannau cymdeithasol neu mewn papurau newyddion neu gylchgronau.

Mae’r ffordd rydym ni’n cyfathrebu gydag eraill wedi newid ar hyd y blynyddoedd. Ganrifoedd yn ôl roedd pobl yn cyfathrebu drwy anfon signal tân neu golomen. Erbyn heddiw mae technoleg wedi datblygu a bellach mae amrywiaeth o ffyrdd i gyfathrebu gan gynnwys anfon neges destun, siarad dros Zoom ac anfon e-bost. Oeddech chi’n gwybod fod tua 205.6 biliwn o e-byst yn cael eu hanfon bob dydd?

Mae gennym ni iaith arbennig yma yng Nghymru yr ydym yn defnyddio i gyfathrebu. Mae pobl wedi bod yn siarad y Gymraeg am filoedd ar filoedd o flynyddoedd. Ar un adeg roedd rhan fwyaf o Brydain yn siarad yr iaith! Ar hyd y canrifoedd mae llai o bobl wedi bod yn ei siarad, ond, mae’r niferoedd yn codi unwaith eto! Mae siarad Cymraeg yn cŵl ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw yn anelu i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

Mae iaith arwyddo hefyd yn dod yn fwyfwy amlwg ar draws y byd. Gan nad oed pawb yn gallu clywed na siarad mae rhai pobl yn defnyddio eu dwylo i gyfathrebu!! Waw!! Mae’r iaith yma yn dod i’r amlwg yn ein cymdeithasau ac ar ein teledu.

Beth yw eich hoff ffordd chi o gyfathrebu? Yn ystod y thema yma, beth am fynd ati i ddysgu ffordd newydd o gyfathrebu?

Geirfa
Cyfathrebu
Y weithred o gyfnewid gwybodaeth drwy siarad, ysgrifennu neu gyfrwng gwahanol.
Trosglwyddo
Symud rhywbeth o un lle i le arall.
Gwefannau Cymdeithasol
Gwefannau lle gall y defnyddiwr rannu gwybodaeth gydag eraill.
Makaton
Cyfuniad o ddefnyddio iaith lafar a dwylo i gyfathrebu.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Testun & llun
6
Linc
7
Erthygl newyddion
8
Cyfres o luniau
9
Rhyngweithiol