Beth yw siocled?

Beth yw siocled?

Canllaw Rhiant & Athro
Beth yw siocled?

Dim ond eiliadau mae’n ei gymryd i lyncu darn o siocled, ond mae cynhyrchu siocled yn cymryd amser hir.

I ddechrau …

  • … mae siocled yn cael ei wneud o ffa arbennig. Mae’r ffa’n tyfu ar goeden drofannol o’r enw Theobroma cacao. Enw arall yw’r goeden coco. Mae’r ffrwythau’n tyfu’n syth o’r canghennau.
  • Pan fydd y ffrwythau’n aeddfed, mae’r ffermwyr yn eu casglu nhw. Fel arfer, maen nhw’n defnyddio machete i’w torri o’r coed.

Yna …

  • … mae’r ffermwyr yn eplesu’r ffa. Maen nhw’n gosod y ffa mewn biniau arbennig neu o dan ddail banana i’w heplesu. Yn ystod y broses, mae’r ffa’n troi’n llai chwerw.
  • Ar ôl cael eu heplesu, mae’r ffa’n cael eu sychu yn yr haul am ddyddiau. Mae’r blas yn dal i ddatblygu.
  • Ar ôl sychu mae’r ffa’n cael eu cludo i ffatri.

Yno …

  • … mae’r ffa’n cael eu glanhau. Rhaid gwneud yn siŵr nad oes brigau neu gerrig neu unrhyw sbwriel arall yng nghanol y ffa!

Yn dilyn hyn …

  • … mae’r ffa’n cael eu rhostio. Mae’r blas yn gwella ac maen nhw’n troi’n dywyllach yn ystod y broses.

Nesaf …

  • … rhaid cracio’r ffa a chael gwared ar y plisgyn. Ar ôl gwneud hyn, mae’r ffa yn ddarnau bach. Mae’r rhain yn flasus ond maen nhw’n dal yn chwerw.

Y camau nesaf …

  • … rhaid malu’r darnau bach yn bast ac yna rhaid ychwanegu cynhwysion fel siwgr, menyn coco, llaeth neu fanila yn dibynnu ar y rysáit.
  • Gan nad yw’r siocled yn llyfn, rhaid ei roi drwy beiriant arbennig sy’n ei gymysgu.

Yna …

  • … mae’r siocled yn cael ei oeri … yna’i boethi … yna’i oeri … yna’i boethi … ac yn y blaen nes ei fod yn llyfn ac yn edrych yn dda. Dyma’r broses o dymheru’r siocled.

Yn olaf …

Mae’r siocled yn cael ei roi mewn i fowld a’i oeri. Yna, pan fydd yn barod, mae’n cael ei dynnu o’r mowld ac, ar ôl ei becynnu, mae’n cael ei werthu i bobl fel chi!

Ydy, mae’n broses hir!

 

Geirfa
Cynhwysyn
sylwedd neu ddeunydd sy’n ffurfio rhan o gymysgedd
Eplesu
proses lle mae bacteria a burum yn creu newidiadau cemegol mewn ffa coco, sy'n gwella'r arogl a'r blas
Plisgyn
Yr haen amddiffynnol allanol e.e. ar gneuen neu wy
Tymheru siocled
Y broses o gynhesu ac oeri’r siocled am yn ail yn araf i greu’r ‘snap’
Theobroma cacao
coeden fach fytholwyrdd sy’n gynhenid i ardaloedd trofannol
1
Linc
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Rhyngweithiol
5
Sgwrs
6
Linc
7
Llythyr
8
Fideo
9
Linc