Creulondeb i anifeiliaid

RSPCA – Gwaredu ar Greulondeb i Anifeiliaid

Canllaw Rhiant & Athro
RSPCA – Gwaredu ar Greulondeb i Anifeiliaid

Yr RSPCA yw’r Gymdeithas Frenhinol sydd yn atal Creulondeb i Anifeiliaid ac maent wedi bod mewn bodolaeth ers 1824. Nhw yw’r elusen lles mwyaf a hynaf gyda’r gwaith pwysig o achub, adfer ac ailgartrefu neu ryddhau anifeiliaid ar draws Cymru a Lloegr. Yn 2020 bu iddynt ymdrin â 57,000 achos o greulondeb i anifeiliaid. Trwy gymorth y cyhoedd a’u gweithwyr maent yn gweithredu yn ddyddiol i gyflawni eu cenhadaeth. 

Mae eu tîm o achubwyr anifeiliaid yn gweithredu i achub , adfer a gofalu am anifeiliaid a chynorthwyo'r holl anifeiliaid hynny sydd mewn angen. Mae ganddynt ganolfannau ail-gartrefu anifeiliaid, ysbyty adfer bywyd gwyllt ac anifeiliaid eraill sydd yn cael eu cyllido trwy gyfraniadau i’r RSPCA yn genedlaethol ynghyd â chanolfannau lleol. Mae’r holl elusennau lleol yn gweithredu o dan ganllawiau sydd wedi eu gosod gan yr RSPCA yn genedlaethol ac maent yn derbyn nawdd gan roddwyr lleol. Y nawdd yma sydd yn caniatáu'r gweithwyr i achub anifeiliaid ac ymchwilio i greulondeb anifeiliaid a throsedd anifeiliaid. 

Mae eu canolfannau ailgartrefu ac adfer hefyd yn cynnwys y siopau ‘Pets at Home’ ynghyd â chanolfannau bywyd gwyllt. Mae ganddynt hefyd 4 ysbyty anifeiliaid a chlinigau sydd yn cefnogi gwaith yr RSPCA i wella anifeiliaid sâl neu glwyfus. 

Mae eu gweledigaeth am y ddegawd nesaf yn amlygu 8 neges bwysig a’r un mwyaf amlwg yw haneru creulondeb anifeiliaid. 

Geirfa
RSPCA
‘Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid'
Cennad
Sicrhau bywyd da i anifeiliaid trwy eu hachub, gofalu amdanynt ac annog eraill i arddangos parch a gofal.
Creulodeb anifeiliaid
Swyddogion sydd yn ymchwilio i greulondeb ac esgeulustod tuag at anifeiliaid. Yn yr achosion gwaethaf mae modd erlyn yr unigolyn.
Trosedd anifeiliaid
Ymladd anifeiliaid megis cŵn a cheiliogod, trosedd bywyd gwyllt megis hela a lladd mochdaear a chaethiwo adar ynghyd â gwerthu cŵn bach yn anghyfreithlon.
1
Blog
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Testun & llun
6
Cofnod dyddiadur
7
Linc
8
Erthygl newyddion
9
Rhyngweithiol