Marconi yng Nghymru

Marconi yng Nghymru

Canllaw Rhiant & Athro
Marconi yng Nghymru

Mae gan Gymru le pwysig yn hanes cyfathrebu.

Oeddech chi'n gwybod bod un o ddyfeiswyr mwyaf y byd wedi gwneud llawer o'i waith o amgylch arfordir Cymru, yn y Gogledd a'r De? Er bod y gŵr bonheddig hwn o dras Eidalaidd, fe dreuliodd lawer o'i ieuenctid yn cydweithio â gwyddonwyr a dyfeiswyr o Brydain yma, gan gynnwys yng Nghymru. Daeth yn enwog am ei fod yn un o arloeswyr cyfathrebu radio. Mae’n cael ei gofio fel dyfeisydd telegraffiaeth radio.

Dechreuodd Guglielmo Marconi arbrawf lle ceisiodd drosglwyddo signalau Cod Morse ar draws Môr Hafren i Ynys Echni yn 1897. Roedd llawer o'r gwylwyr yn ei weld e braidd yn ecsentrig, ond fe lwyddodd ei ddyfalbarhad pan gafodd y neges gyntaf ei throsglwyddo, a phan ddaeth ateb gan ei dîm ar Ynys Echni lle roedd wedi gosod set debyg o offer.

Daeth yr offer radio’n boblogaidd iawn ac yn y pen draw cafodd Telegraffiaeth radio Marconi ei defnyddio gan longau moethus ledled y byd. Yn y pen draw ym 1914 llwyddodd i drosglwyddo Cod Morse yr holl ffordd i ogledd America. Roedd ei orsaf drosglwyddo yn Waun-fawr, rhyw 6 chilometr i'r dwyrain o Gaernarfon, ger Parc Cenedlaethol Eryri yn adeilad cadarn iawn. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918) cafodd ei warchod gan nifer fawr o filwyr Prydain am ei bod yn cael ei weld fel safle milwrol sensitif iawn o bwys sylweddol ar gyfer cyfathrebu.

Ym mis Gorffennaf 1910, roedd stori drawiadol yn y papurau newydd cenedlaethol yn rhyfeddu at yr arestiad "diwifr" cyntaf a ddigwyddodd ar long o ganlyniad i neges telegraffiaeth radio mewn cod Morse.

Roedd offer Marconi hefyd yn achub bywydau. Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi clywed stori wir colled drasig y Titanic. Roedd y llong ar ei mordaith gyntaf ar draws yr Iwerydd pan darodd fynydd rhew am 11:40 p.m. ar 15 Ebrill 1912. Collodd rhyw 1500 o bobl eu bywydau y noson honno, ond fe allai rhagor fod wedi eu colli. Wrth i'r llong ddechrau suddo arhosodd y gweithredwyr radio Bride a Phillips yn yr hyn oedd yn cael ei galw’n "Ystafell Marconi" ar fwrdd y Titanic gan barhau i anfon neges "mayday" neu SOS drwy delegraffiaeth radio. Cafodd y signal telegraffiaeth radio, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel “marconigram”, ei chodi gan longau eraill yn yr ardal gan gynnwys yr RMS Carapathia a llwyddwyd i godi dros 700 o oroeswyr o fadau achub gan gynnwys rhai a oedd yn gafael mewn malurion wrth iddi wawrio.

Yn ddiweddar mae Marconi a'r Titanic wedi bod yn y newyddion eto. Dywedodd Amgueddfa’r Smithsonian yn Efrog Newydd yn ddiweddar bod plymwyr yn bwriadu torri i mewn i’r Ystafell Marconi sy'n dal i fod yn llongddrylliad y Titanic ar lawr y cefnfor. Maen nhw’n awyddus i achub offer Marconi a'i ddangos yn yr amgueddfa.

Mae perthnasau'r rhai a fu farw ac eraill yn dadlau y dylai’r llong gael ei gadael fel y mae gan ei bod yn "fedd yn y môr" a gadael cyrff y bobl anffodus na chawson nhw mo’u hachub i "orffwys mewn hedd".

Geirfa
Dyfeisio
Rhywbeth, fel arfer yn broses neu eu dyfais, sydd wedi cael ei greu o syniad gan unigolyn neu dîm.
Cod Morse
Morse code is a method used in telecommunication to communicate text through a sequence of dots and dashes.
Cilometr
Mae cilometr yn uned o hyd yn y system fetrig sy'n hafal i un mil metr.
Telegraffiaeth Radio
Anfon negeseuon fel arfer drwy God Morse gan ddefnyddio tonnau radio o un lle i’r llall
Amgueddfa’r Smithsonian
Sefydliad pwysig a mawr iawn yn cynnwys amgueddfeydd, orielau a sw yn yr Unol Daleithiau
1
Linc
2
Cofnod dyddiadur
3
Sgwrs
4
Llythyr
5
Llythyr
6
Erthygl newyddion
7
Erthygl newyddion
8
Linc
9
Testun & llun