Yr Eisteddfod Genedlaethol

Hwyl, gŵyl a gwaith

Canllaw Rhiant & Athro
Hwyl, gŵyl a gwaith

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn flynyddol bob yn ail o’r de i’r gogledd, mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru. Bydd yr Eisteddfod yn denu tua 150,000 o ymwelwyr o Gymru ac yn rhyngwladol i’r maes sy’n cynnwys dros 250 o stondinau ac atyniadau amrywiol. Bydd oddeutu 6000 o bobl yn cystadlu ac yn perfformio dros gyfnod o wythnos yn yr Eisteddfod. Credir mai Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw’r Ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop. Mae’r Eisteddfod yn cynnig llwyfan ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, perfformiadau a llawer mwy.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn 1176 o dan nawdd yr Arglwydd Rhys yn ei gastell yn Aberteifi. Gwahoddwyd beirdd a cherddorion o bob rhan o'r wlad i'w gastell, gan anrhydeddu'r bardd a'r cerddor gorau â chadair traddodiadol sydd wedi parhau hyd heddiw. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Aberdâr yn 1861. 

Efallai eich bod wedi gweld lluniau o’r Eisteddfod ar y teledu ac wedi sylwi ar rai pobl wedi gwisgo mewn lliain gwyn, gwyrdd a glas yn cael eu harwain gan unigolyn arbennig. Os felly rydych wedi gweld Gorsedd y Beirdd a’r Archdderwydd.

Cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd. Mae enwogion fel y cyflwynydd radio Huw Stephens, y gantores Caryl Parry Jones, y canwr opera Bryn Terfel, yr athletwraig Tanni Grey-Thompson a’r cogydd Bryn Williams wedi eu hurddo i’r orsedd.

Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd. Caiff ei ethol am gyfnod o dair blynedd ac mae'n gyfrifol am arwain seremonïau'r Orsedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Seremonïau’r Orsedd yw’r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio.

Tybed os ydych wedi gweld cylch o feini mewn pentrefi a threfi ar hyd a lled Cymru? Os felly rydych wedi gweld Cylch yr Orsedd. Maent wedi eu gadael yno i nodi bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â'r dref neu'r ardal honno.

Bydd yr Eisteddfod nesaf yn cael ei chynnal yn Nhregaron o’r 31ain o Orffennaf i’r 7fed o Awst 2021. Gobeithio y byddwch yn ymweld ac efallai cystadlu!

Geirfa
Eisteddfod
Gŵyl Gymraeg o gystadlaethau ar gyfer beirdd, cerddorion, artistiaid ac eraill.
Gorsedd y Beirdd
Cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant.
Yr Archdderwydd
Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd ac mae’n gyfrifol am arwain seremonïau'r Orsedd.
Urddo
Cyflwyno rhywun yn ffurfiol i gymdeithas neu swydd uchel.
1
Blog
2
Blog
3
Testun & llun
5
Linc
6
Cerdyn trump
7
Fideo
8
Fideo
9
Rhyngweithiol