Aurora Borealis yn weladwy gyda'r llygad noeth o Eryri yn edrych dros Aber y Bermo

Goleuni’r Gogledd

Canllaw Rhiant & Athro
Goleuni’r Gogledd

Beth sy’n achosi Goleuni’r Gogledd? 

 

Er mwyn deall beth sy’n achosi Goleuni’r Gogleddmae angen deall beth sy’n digwydd yn yr haul, a hefyd deall am faes magnetig y DdaearPelen o hydrogen a nwyon eraill yw’r haul. Mae tua 93 miliwn o filltiroedd, neu 150 miliwn o gilometrauo’r Ddaear 

 

Yn yr haul, mae atomau hydrogen yn bwrw yn erbyn ei gilydd ac yn creu ymasiad niwclearWeithiaumae gronynnau wedi’u gwefru yn saethu allan o’r haul ac yn creu fflach solar. O ganlyniadmae’r gronynnau’n teithio drwy’r gofod am ddau ddiwrnodtua 93 miliwn o filltiroeddnes cyrraedd y Ddaear. 

 

Mae maes magnetig yn amddiffyn y Ddaearond mae’n llai cryf ym mhegwn y gogledd a phegwn y de. Felly, mae rhai o’r electronau sy’n dod o’r haul yn llwyddo i gyrraedd atmosffer y DdaearWrth wneud hynmaen nhw’n gwrthdaro â’r atomau ocsigen a nitrogen sydd yn atmosffer y DdaearMae’r atomau hyn yn cynhyrfu, ac maen nhw’n rhyddhau ynni ar ffurf goleuni. 

 

Mae’r Goleuni’n edrych fel llenni neu donnauoherwydd eu bod nhw’n dilyn y llinellau grym ym maes magnetig y DdaearNwyon gwahanol sy’n rhoi’r lliwiau gwahanol. 

  • Ocsigen – mae’n rhoi golau gwyrdd, y lliw mwyaf cyffredin; 
  • Nitrogen – mae’n rhoi golau glascoch neu borffor. 
     

Y lleoedd gorau i weld Goleuni’r Gogledd yw: 

  • Alaska neu ogledd Canada; 
  • Gwledydd Llychlyn; 
  • Gogledd yr Alban, weithiau i lawr i ogledd LloegrMaen cael ei weld yng ngogledd a chanolbarth Cymru os yw’r amodau’n iawn. 
  • Mae’n bosibl gweld Goleuni’r Gogledd yr holl ffordd i lawr i’r cyhydeddond mae hynny’n eithaf anarferol. 
  • Rhaid mynd ymhell o ddinasoedd neu drefi mawr, neu bydd llygredd golau’n broblem. Felly, mannau anghysbell sydd orau. 
     

Mae’r Goleuni’r Gogledd ar ei orau yn ystod y gaeaf a hefyd yn ystod misoedd Medi, Hydref, Mawrth ac Ebrill. Mae angen noson glirddigwmwl i weld y golueniOs yw’r lleuad yn llawnmae’n fwy anodd gweld y goleuni. 

Mae goleuni tebyg i’w gweld yn yr Antarctig – Aurora Australis yw’r enw arno. 

Geirfa
Anghysbell
Ymhell o ardaloedd poblog
Antarctig
Yr Antarctig yw’r cyfandir mwyaf a safle Pegwn y De ac mae wedi'i amgylchynu gan Gefnfor y De
Goleuni’r Gogledd
Mae Goleuni’r Gogledd neu’r Aurora Borealis yn arddangosfa olau naturiol yn awyr y Ddaear.
Maes magnetic
Yr ardal o amgylch magnet lle ceir grym magnetig.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Cofnod dyddiadur
5
Linc
6
Erthygl newyddion
7
Fideo
8
Fideo
9
Rhyngweithiol
10
Cyfres o luniau