Deunydd planhigyn y barod ar gyfer tynnu DNA

Gardd Fotaneg Cymru yn arwain ar DNA planhigion

Canllaw Rhiant & Athro
Gardd Fotaneg Cymru yn arwain ar DNA planhigion

Cafodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ei hagor ym mis Mai 2000. Lleolir yr ardd ger Llanarthne yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin. Mae'r ardd yn atyniad i ymwelwyr ac yn ganolfan ar gyfer ymchwil a chadwraeth botaneg wyddonol. Yno mae tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf y byd, a gynlluniwyd gan yr Arglwydd Foster, ac sy'n mesur 110m o hyd a 60 metr o led. Y tŷ gwydr sydd â'r arddangosfa orau o blanhigion hinsawdd y Môr Canoldir yn Hemisffer y Gogledd.

 

Ers 2000, mae dros 2.5 miliwn o bobl wedi ymweld â'r ardd er mwyn gweld a dysgu am y planhigion a'i phrosiectau ymchwil wyddonol sy'n gysylltiedig â chadwraeth. Mae gan yr ardd gasgliad anhygoel o dros 8000 o wahanol fathau o blanhigion ar fwy na 560 erw o gefn gwlad.

 

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sy'n arwain y ffordd ar gyfer codau bar DNA i blanhigion. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i adnabod DNA ei holl blanhigion blodeuo a'i holl gonwydd brodorol. Mae'r wybodaeth hon yn rhoi adnodd enfawr i wyddonwyr ymchwilio i gadwraeth bioamrywiaeth ac iechyd pobl drwy Gronfa Ddata Codau Bar Bywyd. Bydd modd cymharu dilyniannau DNA anhysbys yn y gronfa ddata er mwyn canfod o ba blanhigyn y maen nhw wedi dod.

 

Gallai’r gwaith codau bar DNA sy’n cael ei wneud yn yr ardd gael ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd i helpu gwyddonwyr yn y dyfodol. Mae’r enghreifftiau'n cynnwys:

 

  • Deall anghenion cynefin anifeiliaid sydd mewn perygl o ran darganfod pa blanhigion y maen nhw’n eu bwyta.
  • Ailadeiladu tirweddau hanesyddol ar sail hadau a phroffiliau pridd.
  • Ymchwil i dwymyn y gwair drwy adnabod y paill yn yr atmosffer.
  • Ymchwil i ble mae gwenyn mêl yn chwilio am eu bwyd.

 

Mae gwaith gwyddonol yr Ardd yn cael ei gydnabod ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Ar hyn o bryd maen nhw wrthi’n adnabod DNA fflora'r gweddill o’r Deyrnas Unedig ac yn ymwneud â phrosiectau rhyngwladol ar ecoleg coedwigoedd glaw.

 

Beth am fanteisio ar y cyfle i ymweld â'r gerddi i weld drosoch eich hun?

Geirfa
Cadwraeth
Cadwraeth yw gofalu am adnoddau naturiol a'u diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
DNA
DNA (deoxyribonucleic acid) yw'r moleciwl sy'n cynnwys cod genetig bywyd.
Fflora
Flora yw'r gair Lladin am "blodyn".
Hemisffer y Gogledd
Hemisffer y Gogledd yw hanner uchaf y Ddaear sydd i'r gogledd o'r Cyhydedd.
1
Blog
2
Testun & llun
3
Testun & llun
5
Testun
6
Linc
7
Erthygl newyddion
8
Cerdyn trump
9
Fideo
10
Rhyngweithiol