Caerdydd, prifddinas Cymru

Caerdydd, prifddinas Cymru

Canllaw Rhiant & Athro
Caerdydd, prifddinas Cymru

Nid yw Caerdydd bob amser wedi bod yn ddinas nac yn brifddinas.

Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dim ond ychydig filoedd o bobl oedd yn byw yn nhref Caerdydd, a hynny mewn ardaloedd gwahanol o dai teras fel Sblot, Treganna, Crockherbtown, y Drenewydd, Temperance Town, Butetown a Grangetown. Gyda dyfodiad y rheilffyrdd stêm a'r cynnydd ym mhwysigrwydd allforion glo Cymru ar ddiwedd oes Fictoria tyfodd y dref yn gyflym iawn.

Y Brenin Edward VII roddodd statws dinas i Gaerdydd a hynny ar 28 Hydref 1905. Pe buasech chi yn yr ysgol bryd hynny, fe fuasech chi wedi cael gwahoddiad gyda holl blant ysgol eraill y dref i agoriad swyddogol Neuadd y Ddinas. Gorymdeithiodd ysgolion o bob rhan o Gaerdydd eu disgyblion i'r Ganolfan Ddinesig newydd a chafodd pob plentyn fedal i gofio'r diwrnod arbennig y daeth Caerdydd yn ddinas! Allwch chi ddychmygu bod yn y dorf yn gweiddi’ch cefnogaeth i’r Brenin yn ei het uchel! Prin y byddai neb o’r plant hynny'n meddwl y byddai'n rhaid i lawer o fechgyn y dorf fynd o fewn deng mlynedd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac na fyddai llawer yn cael dod yn ôl, gwaetha’r modd.

Yn nes ymlaen, er gwaethaf trafod a dadlau cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, penderfynodd y llywodraeth mai Caerdydd fyddai prifddinas Cymru ym mis Rhagfyr 1955 pan wnaeth Gwilym Lloyd George yr Ysgrifennydd Cartref bryd hynny y cyhoeddiad yn Senedd y Deyrnas Unedig yn Llundain.

Ym 1924 roedd y South Wales Daily News wedi trefnu arolwg barn yn gofyn i’r awdurdodau lleol bleidleisio dros eu dewis brifddinas nhw. Roedd lleoedd fel Aberystwyth a Chaernarfon hefyd yn credu mai nhw ddylai fod yn brifddinas Cymru am eu bod yn dweud eu bod nhw’n fwy Cymraeg a Chymreig na Chaerdydd. Fe gawson nhw eu siomi gan ganlyniad y bleidlais.

Mae Caerdydd wedi gweld llawer o newid ers dros ddau gant o flynyddoedd i ddod yn Brifddinas ffyniannus bwysig sy'n tyfu'n gyflym heddiw.

1
Erthygl newyddion
2
Testun & llun
3
Cofnod dyddiadur
5
Sgwrs
6
Linc
7
Cerdyn trump
8
Cyfres o luniau
9
Fideo
10
Rhyngweithiol