Ar y ffordd…

Ar y ffordd…

Canllaw Rhiant & Athro
Ar y ffordd…

Beth yw hyd y ffyrdd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban?

O'r 247,100 o filltiroedd o ffordd ym Mhrydain Fawr yn 2019, roedd 21,000 o filltiroedd (9%) yng Nghymru, 189,100 o filltiroedd (77%) yn Lloegr, a 36,900 o filltiroedd (15%) yn yr Alban.

Faint o gerbydau sydd ym Mhrydain Fawr?

Ar ddiwedd mis Mehefin 2020, roedd 38.4 miliwn o gerbydau trwyddedig ym Mhrydain Fawr, gostyngiad o 0.9 y cant o'i gymharu â diwedd mis Mehefin 2019. Y rheswm am y gostyngiad oedd y cyfnod clo yn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2020. Bu’n rhaid i werthwyr cerbydau ac ystafelloedd arddangos gau felly cafodd llai o gerbydau eu gwerthu.

Ceir yw'r rhan fwyaf o gerbydau ar ffyrdd y Deyrnas Unedig. Ym Mhrydain Fawr, roedd 31.6 miliwn o geir (82.4%), 4.1 miliwn o Gerbydau Nwyddau Mawr (LGV) (10.7%), 0.47 miliwn o Gerbyd Nwyddau Trwm (1.2%), 1.3 miliwn o feiciau modur (3.4%), 0.12 miliwn o fysiau a choetsys (0.3%) a 0.74 miliwn o gerbydau eraill (1.9%) wedi’u trwyddedu ar ddiwedd mis Mehefin 2020.

Beth yw'r car mwyaf cyffredin ym Mhrydain Fawr?

Ar ddiwedd 2019, y car trwyddedig mwyaf cyffredin oedd y Ford Fiesta, gydag 1.5 miliwn o geir, ac yna Ford Focus gydag 1.2 miliwn a'r Vauxhall Corsa gydag 1.1 miliwn.

Pa mor aml y mae car yn cael ei ddefnyddio neu ei barcio?

Mae'r car cyffredin yn treulio rhyw 80% o'r amser wedi'i barcio gartref, mae’n cael ei barcio mewn mannau eraill tua 16% o'r amser ac felly dim ond yn cael ei ddefnyddio (yn symud) am y 4% arall o'r amser mewn gwirionedd.

Beth oedd hoff liw car newydd yn 2019?

Llwyd oedd hoff liw car newydd y Deyrnas Unedig yn 2019.

Beth yw oedran car ar gyfartaledd?

8 oed.

Yn ystod oes y car cyffredin, faint o berchnogion fydd ganddo?

Dros oes y car ar gyfartaledd, bydd ganddo bedwar perchennog.

Geirfa
Canran
Rhif yn cael ei ddangos fel ffracsiwn o 100.
Miliwn
1,000,000.
Cerbyd
Peiriant sy’n cael ei ddefnyddio i gludo pobl neu nwyddau.
Cerbyd Nwyddau Mawr
Cerbyd sy'n cario llai na 3,500 kg e.e. fan neu lorri fach.
Cerbyd Nwyddau Trwm
Cerbyd sy'n cario mwy na 3,500 kg e.e. lorri.
Trwydded
Caniatâd swyddogol i wneud neu ddefnyddio rhywbeth, neu i fod yn berchennog ar rywbeth.
1
Rhyngweithiol
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Testun & llun
6
Sgwrs
7
Linc
8
Erthygl newyddion
9
Cerdyn trump
10
Cyfres o luniau