Golau goleuol lliwgar ceir yn gyrru ar briffordd.

Ar wib!

Canllaw Rhiant & Athro
Ar wib!

Mae bron pawb yn hoffi cyflymder! Efallai nad ydych chi’n hoffi mynd yn gyflym ar reid mewn ffair, ond dychmygwch y wefr o edrych ar rywbeth yn mynd yn gyflym, boed yn roced yn saethu i’r awyr, yn ffrind yn ennill ras yn y mabolgampau neu yn geir rasio ar drac fformiwla 1. 

Un o’r pethau cyflymaf yn y bydysawd yw golau. Mae golau yn trafaelio ar gyflymder o thua 186,270 milltir yr eiliad. Golyga hyn, er bod yr haul tua 93,000,000 o filltiroedd i ffwrdd o’r Ddaear mae ei golau yn cyrraedd ein llygaid ni mewn 8 munud ac 20 eiliad. 

Dyma restr o rai o’r pethau cyflymaf yn y byd: 

Usain Bolt – Fe sy’n dal record y byd am redeg 100m. Rhedodd y pellter yma mewn 9.58 eiliad yn 2009. 

SSC Tuatara – Yn 2020 cyrhaeddodd y car yma gyflymder o 331 milltir yr awr! Gan ei fod mor gyflym rhaid defnyddio system gamerâu i helpu gyda’r llywio. 

Llewpart hela – Mae’n gallu rhedeg hyd at 70 milltir yr awr. Mae pysgod hwyl yn gallu nofio hyd at yr un cyflymder sy’n eu gwneud nhw'r pysgod mwyaf chwim yn y môr. 

Gwalch Peregrine – Dyma aderyn sy’n gallu hedfan ar gyflymder o 200 milltir yr awr, golyga hyn mai dyma’r anifail cyflymaf yn y byd. 

Tornado yn Oklahoma – Cyrhaeddodd gwyntoedd y tornado yma 286 milltir yr awr ar Fai'r 3ydd 1999. Dyma’r darlleniad uchaf erioed ar gyfer gwynt. 

Sleid ddŵr – Ceir y sleid ddŵr cyflymaf ym Mrasil. Mae’r sleid yn 41 medr o uchder a bydd pobl yn cyrraedd cyflymder o 65 milltir yr awr arni. 

Cofiwch ddarllen a dysgu fwy am y pethau cyflym yn ein byd ni yn yr erthygl yma. 

Geirfa
Cyflymder
Y gyfradd mae rhywun neu rhywbeth yn symud.
Bydysawd
Y gofod i gyd a phopeth sydd ynddo gan gynnwys y galaethau, planedau a’r sêr.
Llywio
y weithred o droi neu gyfeirio cerbyd.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
6
Cerdyn gwybodaeth
7
Cerdyn trump
8
Cyfres o luniau
9
Fideo
10
Rhyngweithiol